Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GENINEN: Cplrteaton Ctnettlaet&ol. Rhif 3.] GORPHENAF, 1890. [Cyf. VIII. CYNHADLEDD YR AMWYTHIG, AC UNDEB CREFYDDOL YN NGHYMRU. Pel y gŵyr darllenwyr Y G-entneîí cynhaliwyd cynhadledd yn yr Amwythig, fis EbriÌl diweddaf, i ymgais at feithrin mwy o frawdgarwch rhwng enwadau Ymneillduol Cymru â'u gilydd. Cyfyngwyd cylch yr ymgais hwn at gynydd i ìnewn brawdgarwcli yng Nghymru yn gyfangwbl i Ymneillduwyr. Ni farnwyd yn addas wahodd Eglwyswyr i'r gynhadledd i gydymgynghori â brodyr Ymneill- ; dúol ynghylch meithrin brawdgarwch rhwng holl grefyddwyr Cymru â'u gilydd. Paham y cauwyd Eglwyswyr allan o'r gynhadîedd undebol ? Dadganodd y Parch. Dr. O. Thouias, Líynlleifiad, a'r Parch. Dr. John Hughes, Caernarfon, yn Mangor, fìs Medi diweddaf, eu hawydd cryf am i Eglwyswyr gael eu gwahodd os cynhelid cynhadledd undebol. Credaf y gwyddai y cyfeillion oedd yn gyfrifol am drefnu Cynhadledd yr Amwythig fod Eglwyswyr yn barod i gyfarfod Ym- noillduwyr mewn cynhadledd undebol. Nid Cynhadledd yr Amwythig yw y gynhadledd undebol gyntaí' fu ar droed yn ystod y ddwy flynêdd ddiweddaf yng Nghymru. Yn niwcdd y fiwyddyn 1888, arwahoddiadEsgobpresenolLlanelwy, a'r Parch. Dr. T. Charles Edwards, Aberystwyth, ymffurfìodd nifer O weinidogion Eglwysig ac Ynmeillduol yn y Deheudir yn bwjdlgor i drefnu ar gyfer cynal cynhadledd undebol. Amcan hono, felCynhadleddyr Amwythig, oeddmeithrin brawdgarwch rhwng brodyr o wahanol famau. Y prif wahaniaeth. rhwng y ddau symudiad oedd fod y cyntaf yn cynwys Eglwysw5rr o fewn cylch y brawdgarwch yr amcenid ato. Nid amcanai y pwyllgor Deheuol at undeb corfforiaethol trwy gynhadledd, ac ni ddisgwyliai i neb roddi i fyny ei argyhoeddiadau. Y cwbl fwriedid wneyd trwy y cynyg am gynliadledd undebol oedd meithrin brawdgarwch personol, rhydd-j^nidäiddan yn gyíeillgar ar yr athrawiaethau sylfaenol a gredir yn ddiddadl genyrn oíl, ac ymgynghori ai ni ellid cydweithredu yn erbyn tuedd- iadau anffyddol a llygredig yr oes. Er fod yr amcanion jm hollol ddiniwaid a daionr s, ac er f od rhai y mac gan Ymneillduwyr Cymru yr ymddiried llwyraf yuddynt yn aelodau o'r' pwyllgor, eto methodd nifer mawr o frodyr Ymneilíduol weled eu ffordd yn glir i dderbyn gwahoddiad y pwyllgor i gynhadledd undebol 3Tn Aberystw^'th, Grorphenaf, 1889. Yng ngwyneb hyn penderfynwyd rhoddi i i'yny y gynhadledd. Gan i'r cyfeillion wrthodasant ddyfod idcli gefnogi cyn- hadledd undebol yn yr Amwythig, yn y mis Ebrill dilynol, cyfyngedig i Ymneill- duwyr, teg casglu na thybient y deilliai lles yn y byd o ymddiddan âg Eglwyswyr am frawdgarwch yng Nghymru ar hyn o bryd. Dewisasant Ymneillduaeth yn gyntaf, a Chistionogaeth yn ail, fel sylfaen y brawdgarwch a geisiant. Nid ywyn deg cyhuddo y cyfeillion hyn o anfrawdgarwch at Eglwyswyr,- Dichon eu bod yn barnu mai doeth cuddio brawdgarwch at Eglwysw}T fel had da yn y ddaear dros amser er mwyn iddo dyfu a dwyn ffrwyth rywbryd. Cymeradwyodd y gynhadledd eu cynllun, oherẁydd nid ynganwyd gair ynddi, hyd"yr wj^f yndeall, ynghylch gwahodd Eglwyswyr i'r gynhadledd nesaf. Yr wyf yn hollol barod i gydnabod fod jrr amcan goreu gan bawb oedd yng Nghynadledd yr Amwythig yn yr oll a wnaethant. Ni fynwn, er dim, ysgrifenu gair oer am danynt nac am eu hamean. Hawlia eu hamcan gydymdeimlad pob ©ristion. Nis gall neb ddymuno amcan mwy rhesymol na meithrin brawdgarwçh, Ni ddylai Eglwyswyr