Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WAWR. Cyf. VI.] GORPHENAF, 1881. [Rhif. 4. Y PARCH. JAMES SPENCER LLANELLI. GAN Y PARCH. D. W. MORRIS, TAYLORVILLE, PA. Bu cysylltiad rhwng James Spencer a phedair sir yn ei wlad, pedair tref yn ei fro, a phedair o eglwysi clodfawr yn- ddi. i. TrefFynon, yn Flint, a'i mag- odd. Mae i sir Flint ei Bryn-goleu, maenor Thomas Pennatj y Dderwen Lydan, magwrfa Matthew Henry ; a Threffynon, a swyddfa y Traethodydd ynddi. Ac yn TrefFynon y ganwyd James Spencer, yn y flwyddyn 1812, pan oedd Nelson ar y Nile yn maeddu, magnelau Waterloo ar saethu, ac An¬ drew Fuller yn dechreu dihoeni. Tad Mr. Spencer a fu farw yn gynar, gan adael y fam i wylo, y plant i gwyno, a'r teulu i ymdaro. Pan yn 12 mlwydd oed bedyddiwyd James Spencer gan y Parch. Owen Williams, TrefFynon, yr adeg hono, wedi hyny TrefForest, yn Morganwg, ac yn ddiweddaf y Twyn- gwyn, yn Mynwy. Tri o leoedd ar- wyddol—yn TrefFynon, yr olchfa ; Tre¬ fForest, ein gyrfa; a Thwyngwyn, ein gorphwysfa. Dan ddeunaw oed de- chreuodd James Spencer bregethu, a myned i Bagillt i gael ei brofi, i Lixwm i gael ei bwyso, ac i Mold i gael mesur ei ddawn yno. A bu rhaghxn yn ei dafoli, cam-iaxn yn ei boeni, a chywir- farn yn ei loni. Ac yn y cyfnod hwnw yr oedd ganddo bedwar gorchwyl i gyflawni—tirio y mwnglawdd du, dos- barth yn yr ysgol Sul i hyfForddi, cyn- orthwyo ei fam i fywioli, a myfyrio gyferbyn a phregethu. Amcanai nid i ddysgleirio yn y llu, ond dysgu a gol- euo; nid ymgodi uwch y ser, ond ym- egnio yn fwy na llawer, a mwy fu y sylwedd i lenwi na'r swynion i loni. 2. Tref-silyn yn ei hyfForddi. Tua'r flwyddyn 1834 yr oedd John Williams, wedi hyny o Rhosllanerchrugog, a'r Drefnewydd, yn weinidog y Bedydd- wyr yn Llansilyn, yn sir Dinbych. Tri pheth i'n synu—" Canwyll" i Walia o Lanymddyfri; " Gwinllan y Prydydd" o Lanrwst, a doniau mawrion o Lan- silyn. Yno cyfansoddwyd " Oraclau Bywiol," yr eglurwyd Hades a Shtol, ac y manylwyd ar gyfamod Sinai, a'r cynllun mwy rhagorol. Ac yr oedd John Williams yn cadw ysgol yn Llan¬ silyn i godi dynion ieuainc i bregethu; ac. efrydwyr yn Llansilyn fu Cynddelw, brenin awen ; Nefydd, y nofiwr try- len; a James Spencer, ddu ei ben, gwelw ei wedd, a thai ei gorphyn. Tair cainc ar y winwydden yno a fu— crefydd yn addurn, cymeriad dilych- win, a chynydd amlwg i bawb, ond i ambell elyn. Antur, amser, ac arian, oedd y tri pheth a ganfyddwyd yno. Antur i gydio, amser i lafurio, ac arian i dalu am ei ddysg yno. Tybiwn mai Coleg Llansilyn a'i gwnaeth yn ath- ronydd o dueddion, beirniad yn man- ylu, Cymreigydd cywir, duwinydd o allu, ac efengylydd mor gymeradwy. Deallodd geinion Massilon, derbyn- iodd sylweddau Surin, drachtiodd o ffynonau llawnion Fuller, a gadawodd John Williams, Llansilyn, ei argrafF ar- no ar hyd ei oes, ac i'w therfyn. Dyn crwca oedd Alexander Pope; bu y