Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WAWR. Cyf. VI.] TACHWEDD, 1881. [Rhif. 8. Y PARCH. JOHN JONES, MERTHYR. GAN Y PARCH. D. W. MORRIS, TAYLORVILLE, PA. I. Ein golwg gyntaf arno. A bu yn y pedwerydd mis yn y flwyddyn 1841, ddydd agor addoldy Adulam, y Velin- voel, Llanelli, ac yno yn llencyn yr oeddwn yn adeg y cysegru, daeth mab yr ystorm, plentyn y ser, a brawd y seraph, yno i bregethu. Dyn tua deg- ar-hugain oed, o daldra cyffredin, y prydweddion yn heulio, y llygaid yn melltenu, y genau megys cwrel, a'i daf- od yn ail i delyn Judah. Darllenodd yn destyn, " Llusern yw dy air i'm traed, a llewyrch i'm llwybr." Ac wedi egwyl fer i flaen-ymadroddi, dyna y "llusern" yn fflamio, y "llewyrch" yn fwy na dolenau Sadwrn, a'r "llwybr" yn oleuach na siroedd Caergwdion. Erioed ni chlywais i y fath barablu per, brawddegu tlws, neu bentyru meddyliau byw ar ben tyrfa, a hono wedi ei syfrdanu, ei synu a'i swyno. Dyna John Jones, Seion, Merthyr, a mwy adnabyddus yr adeg hono fel "Jones, Blaenavon," a phobl y nent- ydd tryloewon, y dyffrynoedd ter, y bryniau banawg, a'r mynyddoedd eng- yrth, yn ei ddarfoli, megys udgorn Ra¬ ma, i gario llais y Tragywyddol i alw tyrfa i godi a derbyn, i garu a dilyn, i ganu yn y dyffryn, a chydio yn y ddawnus delyn. II. Ein ymwybodusrwydd am dano. Efe a aned rhwng Aberdyfi, Meirion, ac Aberystwyth, Ceredigion, yn y fl. 1807. Dyna Meirion fynyddog, Mal- dwyn fad, ac Aberteifi glodus, yn ei- ddawg iddo ddydd ei eni. Bedydd- iwyd ef yn ieuanc gan Mr. Simon James, Penrhiwgoch; derbyniwyd ef yn aelod i eglwys Talybont, ac anog- wyd ef yn ddioedi i ddechreu efengylu. Anfonwyd ef yn genadwr i siroedd Gwynedd, a bu Cadair Idris iddo yn chwaer, y Wyddfa yn gares, ac Ynys Enlli yn deml " yn nghanol y m6r." Derbyniwyd ef i Athrofa y Bedyddwyr yn Abergaveny; urddwyd ef yn Hor- eb, Blaenavon; a symudodd i gapel Seion, Merthyr, yn 1839, i olynu y gwr cynwythig hwnw, y Parch. David Saunders, yr hwn oedd yn dihoeni, ac a fu farw Ionawr, 1840, yn 72 ml. oed. Arabeddwr oedd Mr. Saunders, ond annarluniadwy oedd Mr. Jones. Byw- iog a byi oedd Mr. Saunders, ond bwa Midian yn saethu mellt oedd Jones; a byddai Mr. Saunders yn cloddio y meini, a Mr. Jones yn caboli muriau y ty, yn lliwio y lleni, ac yn paentio pyrth y sancteiddiolaf, yn safle i Aaron, yn swyn i Solomon, ac yn ser i ddenu meibion Merari. III. Ein galareb iddo. Tua'r fi. 1842, a Mr. Jones yn myned o Mer¬ thyr i ffynonau Llangamarch, gwyllt- iodd yr anifail oedd yn tynu y cerbyd, neidiodd Mr. Jones allan yn ei ddy- chryn, a thorodd ei ddwy goes; ac wrth ffyn baglau y bu mwyach yn rhod- io; rhwystrwyd ef i allu bedyddio, ac anffodiog fu y tro. Tri o ddynion an- afus yr enwad yn Morganwg oedd Dr. Davies, Abertawe, yn ddall; Roberts, y Tabernacl, yn gloff, a Jones o Seion