Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y WAWR. ■ < Cyp. VII.] MEDI, 1882. [Rbif. 6. CYDWEITHGARWCH CREFYDDOL.5 GAN Y PARCH. W. M. EVANS, FREEDOM, CATTARAUGUS CO., N. Y. " Canys yr oedd gan y bobl galon i weithio."—Nehemiah iv. 6. Cydweithgarwch ydyw un o'r elfenau mwyaf pwysig a hanfodol angenrheid- iol er sicrhau llwyddiant yn mhob an- turiaeth. Y mae yn anmhosibl syl- weddoli unrhyw amcan o werth heb lafur caled ac ymdrech di-ildio. Trwy ■ lafur yr arloesir y tir, y plenir gwin- llanoedd, y cesglir ffrwythau y ddaear, yr adeiledir aneddau, yr agorir rheil- ffyrdd, y gwneir peirianau amryfath, ac y dadblygir adnoddau amrywiol gwyddoniaeth a chelfyddyd. Y llaf- urwr caled yw y bod mwyaf gwerth- fawr ac urddasol mewn cymdeithas. Y mae yn wir yr edrychir i law£,a,rno, ac y dirmygir ef gan ryw ddosbarth ; ond eto, y mae yn ffaith, mai efe yw y brif olwyn yn mheiriant mawr cymdeithas. Ete a rydd fywyd ac ysgogiad i'r cwbl. Ychydig mewn cymhariaeth y mae dyn yn unigol yn alluog i'w wneuthur ; ond y mae cyd-ymdrech y lluaws mewn un cyfei'riad yn medru cyrhaedd y dyben- ion mwyaf anhawdd, aruchel, a gogon- * Traddodwyd y bregeth ragorol hon gan yr awdwr yn Ngbymanfa Swydd Oneida, 1882. Cyhoeddir hi yma ar ddymuniad amryw a'i clywodd. Hyderwn y ca y sylw a deilynga. eddus. Yn y testyn a'i gysylltiadau, gwelwn fod galluoedd by chain ac an- nghelfydd ynddynt eu hunain, trwy gael eu canolbwyntio mewn un gor- chwyl arbenig, yn medru cyfiawni y gorchestwaith mwyaf godidog. Cod- wyd muriau Jerusalem, ac adeiladwyd y deml trwy gydymdrech yr Iuddew- on, er fod yr anhawsderau, a gwrth- wynebiadau gelynion yn ymddangos yn fawr a herfeiddiol. Diflanodd y cwbl o flaen penderfyniad y bobl i gyd- weithio. " Felly nyni a adeiladasom y mur, a chyfanwyd yr holl fur hyd ei haner ; canys yr oedd gan y bobl galon i weithio." Gwnawn y sylwadau can- lynol oddiwrth y testyn a'i gysyllt¬ iadau. I. Fod cymellion amrywiol a llu- OSOG I GYDWEITHGARWCH crefyddol. Canfyddwn hyn yn hanes y genedl yn codi muriau Caersalem, &c. Cyn y gellir dysgwyl cydymdrech y lluaws gydag unrhyw orchwyl, rhaid yn gynt- af fod y cymellion {motives) yn rymus ac argyhoeddiadol. Y mae lluaws, ys- ywaeth, yn cyfiawni llawer o bethau heb eu bod yn cael eu cymell gan ddy-'