Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CRONICL Rhif 631.] TACHWEDD, 189S. [Ctf. LIII. NODIADAU ENWADOL. Rhoddir y lle blaenaf yn y Geninen am Hydref i ysgrif gan ' Grwyneddon' ar y Parch. Llewelyn Ioan Evans, D.D., Ll.D. Dywed yr awdwr nas gwyr am un Cymro o gyfîelyb feddwl ac enwogrwydd i Dr. Evans wedi disgyn i'r bedd yn y blynydd- oedd diweddaf hyn, a chyn lleied o sylw coffadwriaethol wedi ei wneud o hono yn y cyfnodolion. Ymdrecha Mr. Davies ei oreu i wneud i fyny am y diffyg, drwy ysgrifenu yn edmygol a helaeth ar ei hen gyfaill. Nid oes air o feirniadaeth yn yr erthygl, ar y safle a gymerai Dr. Evans ar rai pynciau pwysig, pynciau ag y gallesid disgwyl i hyd yn nod cyfaill o Drefnydd Calfmaidd, teyrngarol i'r Gyffes Ffydd, wahaniaethu oddiwrtho arnynt. Yn wir aiff Mr. Davies mor bell yn ei edmygedd o;i gyfaill, fel ag i weled mawredd mewn diffyg, a diffyg pwysig hefyd mewn siaradwr cyhoeddus. Dywed, " Yr oedd yn rhy goeth, yn rhy bur, ac yn ddiffygiol yn y ddawn anhebgor hono i bregethu, ddydd mawr yr wyl, yn un o Sassiynau Sir Graernar- von—gallu gyddfol!!" Mr. Davies bia y rhyfeddnod. Onid yw Mr. Davies yn meddwl fod fgallu gyddfol,' chwedl yntau, yn angenrheidiol i bregethu ar y maes ? Un o'r camgymeriadau mwyaf a wna arweddwyr Sassiynau jw dodi dynion o flaen cyn- ulleidfa i wneud ymdumiau am haner awr, heb neb yn y cyrion pellaf yn gwybod ar faes medion daiar pa beth a ddywedant. Wrth sylwi fod Dr. Evans 'f yn rhy goeth, yn rhy bur," i bre- gethu mewn Sassiwn enllibia Grwyneddon un o sefydliadau crefyddol mwyaf gwerthfawr ei enwad. Gadewch i mi nodi uu o bregethwyr Sassiynau y Methodistiaid a gofyn, onid yw Dr. T. Charles Edwards, (yr hwn a fedd y gallu gyddfol a ddirmyga Gwyneddon) ddim yn bregethwr coeth, ddim yn bregethwr pur ? Ond nid yw Mr. Davies yn foddlon ar enllibio pregethwyr o'i enwad ei hun, er mwyn codi ei gyfaill; rhaid iddo hefyd gael