Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^Y CRONICL.^ Rhif 709.] MAI, 1902. [Cyf. LX. Hwnt ac Yma. öan EYNON. V Rhyfel. NID oes neb ond gwallgofiaid an- obeithiol nad ydynt wedi blino ar ryfel erchyll Affrica. Mae gweddiau fil yn cael eu hoffrymu tua'r nefoedd bob dydd am i Reolwr Mawr y Bydoedd roddi ei fendith ar y cais pre- senol i adsefydlu heddwch rhwng y Britwn a'r Boer. Bu Joseph Chamfcer- lain y Sul diweddaf am ddwy awr mewn cynghor a'r Brenin Iorwerth; a chan fod awydd mawr am heddwch cyn y daw dydd mawr y coroni synwn i ddim na cheir terfyn ar y rhyfel annuw- iol hwn cyn mis Mehefin. # # Cecil Rhodes. Ei eiriau olaf wrth farw oeddent: " So much to do. So little done."— " Mor fawr y gwaith. Mor ychydig wedi ei gyflawni." Cofir am eiriau olaf Cecil Rhodes am lawer blwyddyn. Anhawdd dros ben symio i fyny fywyd dyn mor anghyffredin. Gellid meddwl ar brydiau nad oedd natur foesol gan- ddo o gwbl. Gellid meddwl mai peir- iant noeth ydoedd. Nis goddefai ddim i sefyll ar ei ffordd. Bu yn euog o gam- gymeriadau anfad yn ei ddydd, a bu yn foddion anuniongyrchol i dywallt afon- ydd o waed gwirion. Ar y llaw arall, wrth ddarllen ei ewyllys hael, a meddwl am ei filiynau o aur melyn yn cael eu rhoddi er cyfranu addysg i fechgyn y Trefedigaethau gwelir nad oedd yn ar- iangar a chybyddlyd. Nid oedd yn proffesu bod yn grefyddwr, eto yr oedd1 yn barchus o ddynion crefyddol fet General Booth. Mewn gair yr oedd yn gymysgedd rhyfedd iawn. Symiwyd ef i fyny gan un o'r papyrau fel hyn: Nad oedd yn ddyn mawr ond yr oedd yn allu mawr. Eto yn marw dan yr haner cant! Dwrdiai Ilawer am fod. gwasanaeth angladdol iddo yn cael ei. gadw o dan gysgod St. Paul's. Ond> efallai mai tewi sydd oreu yn wyneb. peth fel hyn ar y cyfan. # # "Michael Ddu." Nid enw Eisteddfodol ydyw, ond "Black Michael" yw yr enw roddir mewn cylchoedd neillduol ar Syr Michael Hicks-Beach, Canghellydd y Trysorlys. Mae yn ddu o ran pryd a gwedd i ddechreu ; ac y mae yn " ddu," —h.y. yn swrth braidd—o ran ei ddull o ymddwyn. Nid oes dim o'r lady yn- ddo, ac os bydd galw am air haner cableddus i setlo tynged pethau nid yw Michael Ddu yn hidio pwy f'o'n clywed. Efe sydd ar hyn o bryd yn cadw pwrs John Bwl, a chan fod John yn mynu, gwario rhyw 5,000,000 o bunau bob mis am dân a phylor, mae Michael Ddu yn; gorfod anfon Bill i fewn. Yr oedd yn hallt y llynedd, ond y mae yn waeth. eleni. Roddir ceiniog arall ar dreth yr Incwm, a chodir treth ar fara! Dyma; ni wedi dechreu dadwneyd gwaith mawr Bright a Cobden pan yn ymladd am< fara rhydd î'r werin. Ergyd ar bei>,