Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^Y CRONICL,^ Rhif 732.] EBRILL, 1904. [Cyf. LXII. DYODDEF. (1.) Mae'r llaw sy'n agor emrynt byd bob borau A chreithiau pechaduriaid arni hi; A'r ystlys sydd yn gysgod. i eneidiau Ag ol y clwyfau dorwyd genym ni. (n) Sawl un a ganodd o dan frath y pigyn, A'r gân a'r gwaed yn llifo ar yn ail! Hawdd gwybod gathlodd eos ar ryw frigyn— Os gwnaeth, mae pluen waedlyd ar ei ddail. (in.) Y sawl fyn ganu cân a wrendy'r oesoedd, Eaid dorri 'i galon er ei chanu hi: Trwy glwyf y llif cerddoriaeth bur y Nefoedd— Neu, methodd Crist wrth fyn'd i Galfari. (IV.) Os mynni fod yn llusern gàn, â'th olau Fel llenyrch Nef ar gyrion pella'th oes; Ti wyddost p'le y gesyd Duw lusernau— Mae'i lampau Ef i gyd gerllaw rhyw groes. Rhys J. Huws.