Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^Y CRONICL.A Rhif 740.] RHAGFYR, 1904. [Cyf. LXII. AWN I FETHL'EM. (ficer prichard.) Awn i Fethl'em bawb dan ganu, Neidio, dawnsio a difyru, I gaei gwel'd ein Prynwr c'redig, Aned heddyw—Ddydd Nadolig. 11. Awn i Fethl'em bawb i weled, Y dull a'r modd, a'r man y ganed, Fel y gallom ei addoli, A'i gydnabod wedi ei eni. iii. Awn i wel'd yr Hen Ddihenydd • Wnaeth y nef, a'r môr, a'r mynydd, Alpha oediog, Tad goleuni, Yn ddyn bychan newydd eni. IV. Awn i Fethl'em i gael gweled Mair, a Mab Duw ar ei harffed, Mair yn dala, rhwng ei dwylo, Y mab sy'n cadw'r byd rhag cwympo. Awn i weled y Messias, Prynwr cred, ein hedd, a'n hurddas, Unig Geidwad ein heneidiau, Ar fraich Mair yn sugno bronau. Awn i wel'd ein Prynwr hoyw Sydd i farnu byw a meirw, 'R hwn a'n dwg i'r nefoedd dirion Ar adenydd yr angylion.