Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y CRONICL.ä Rhif 743.] MAWRTH, 1905. [Cyf. LXIII. Y GROES. (1.) Mae'r Cymod yn y Groes— C'lymwyd y bydoedd oll yn un, Pob rhodd a ddaeth yn rhwydd i ddyn, O'r defnyn dwfr hyd goron nef, Trwy Grist a'i Iawn anfeidrol Ef; Symudwyd y rhwystrau 0 bob rhyw, Fel yr heddycher dyn a Duw, Cyfiawnder Iôr wna fyth barnau, A'r euog un ei gyfiawnhau, Mae'r Cymod yn y Groes. (11.) Mae'm Hymffrost yn y Groes,— Byd, Cnawd, a Satan, er eu grym, G-er bron y Groes ni safant ddim : Mwy na gorchfygwr ydwyf fi, Yn haeddiant Aberth Calfari; Ymgilia ymaith wyll ac ofn, Troi'n ol y mae'r íorddonen ddofn, Anfarwol wyf yn Nghrist a'i waed, Ac angau'n trengu dan fy nhraed, Mae'n Hymffrost yn y Groes. (iu.) Mae'm Nefoedd yn y Groes,— Er perffaith burdeb glân y Nef Santeiddrwydd Iôr a'i allu Ef, Aeth pechod yno'n afon fawr, Angylion soddoad fyrdd i lawr ; Ond nid ä'r gelyn yno mwy, Amgaerwyd hi a marwol glwy, Y wledd trwy'r Nefoedd, gan bob gradd, Yw'r Oen sy' megys wedi Ei ladd,— Mae'r Nefoedd yn y Groes. Robin Ddu Eryri.