Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y* Çronicl Rhif. 791. MAWRTH, 1909. [Cyf. LXVIX. At Mam. 0) Mi'th glywais, pan yn blentyn bach, Yn moli Mab y Saer ; A chael dy blant i ddilyn Crist Oedd baich dy weddi daer. Clodforaist, filwaith, Wr y Groes, Cyn iti fynd i'r nef— A yw dy farn, 'rol newid byd Yr un am dano Ef ? (ü.) Rwy'n cofio'th weled, lawer tro, Yn pwytho fin yr hwyr— Tydi yn ymladd brwydrau'r byd A'th blant mewn hedd yn llwyr. Mi wn mai yn y nef yr wyt, Uwchlaw pob croes a chur— A gwyr dy Geidwad fod dy blant Ÿn cofio'th nodwydd ddur ! (ììì.) Bu Duw'n garedig wrthyf fi, Ar ol dy golli, fam, Ni wn am ddwyn 'run arw groes Ni wn am bwysau càm. O Sul i Sul pregethu'r Crist A wnaf mewn hwyl a blàs, Ac ambell dro mae'r Gwr ei hun, Yn helpu gyda'i râs. (iv.) Os gwnaf ddaioni yn y byd Rhoed Duw y clod i ti; Canmolaist gymaint ar ei Fab Nes mynd a nghalon i. Os garw daith sydd eto'n ol Os rhodio raid yn drist— Fe dry'r helbulon oll yn hedd Yng nghwmni Iesu Grist. Rhys J. Huws.