Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y * Çronicl Rhif. 798. HYDREF, 1909. Bethesda, Arfon. Y PAyEL FRÖ. Ar geulanau'r hen Iorddonen Sefyll 'rwyf yn llawn o fraw ; Melus gân y gwaredigion Ataf dros y cenllif ddaw ; Hoffwn 'hedeg uwch ei dyfroedd Draw i'r fro na ŵyr am fedd,— Nid oes yno boen na gofid, Dim ond perffaith dawel hedd ! 'Rwy'n hiraethu am ei gweled, Er yn ofni'r afon ddu ; Llaw fy Iesu, gwn, a'm harwain Trwy yr ymchwydd mawr ei ru ; Draw mi welaf Fynydd Seion, Dydd tragwyddol ar ei sedd,— Nid oes yno boen na gofid, Dim ond perffaith dawel hedd ! Dros y lli* mae ffydd yn canfod Hoff anwyliaid uwch pob cur, Gollwyd tra yn teithio'r anial, Wedi cyrraedd Canaan bur ; Clywaf sain eu Haleliwia, Buddugoliaeth ar eu gwedd,— Nid oes yno boen na gofid, Dim ond perífaith dawel hedd ! [Cyf. LXIX. Glanceri.