Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

kf«4-- «Oo*.* %.& , b • £ F, DYNION MAWR A HYNOD LLYFR Y BARNWYR. L— ADONI-BEZEO. ẅ « V» ~j ^Ẃ GAN Y PAECH. D. SILYN EYANS, ABERDAR. tHWI gewch hanes y dyn hynod hwn yn y bennod gyntaf o'r llyfr, ac mi garwn i chwi ddarllen ei hanes yno cyn darllen fy ysgrif yma. Ystyr y gair Adoni yw arglwydd; a Bezee ydoedd ddinas, meddir, yn llwyth Judah; ac felly arglwydd Bezec yw meddwl yr enw Adoni-bezec. Yr oedd gwlad Oanaau yn awr yn dryfrith o fân-arglwyddi ar wahanol randiroedd, a'r dynion cryfaf eu cyrff a chasaf eu natur oedd- ynt fel rheol yn y swyddi hyn. Mi a wn eich bod wedi gweled llun, ac yn gwybod enw y dyn hynod Cetewayo; ond a wyddech chwi ei fod yn frenin y Zulus am mai efe b'iodd y coríì mwyaf yn y wlad? Nid wyf yn siwr fod gan Adoni-bezec gorff mawr, ond mi wn yn sicr fod ganddo galon galed i ymladd ac i boeni dynion eraill, ac mai dyna'r ffordd yr aeth yn arglwydd Bezec. A wyddoch chwi beth wnaeth ef ? Fe ddododd yn y carchar, o dro i dro, ddeg a thriugain o fân- dywysogion, ac er poeni digon arnynt fe dorodd fodiau eu dwylaw er eu hatal i dynu saethau oddiar fwäau; ac fe dorodd fodiau eu traed er eu hatal i redeg mewn rhyfel; a gorfodai hwynt yn eu tro i fyw ar friwsion ei fwrdd ef trwy eu casglu eu hunain yno fel cwn. Dyna fìlain o ddyn, onide, blant? Cyn hir, mae dwy fyddin o dan ofal dau gadben, sef Judah a Simeon, yn rhyfela yn ei erbyn, ac mae yntau yn fíoi o Bezec fel llwynog, ac maent hwythau yn erlid ar ei ol hyd nes ei ddal, ac wedi ei ddal, maent yn tori bodiau ei ddwylaw a'i draed yntau; ac mi wn fod rhai o honoch, wrth glywed y newydd, yn bloeddio, Serve him right; ond cyn gwneud hyny, gochelwch rhag eich bod yn dilyn ei lwybrau ef. Bellach, dowdh yn nes, a gwrandewch bob un am y goreu, o herŵydd fod hanes y dyn