Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMWELYDD. Cyp. XXII.] MAI, 1898. [Rhif 5. Y DEUDDEG DISGYBL. (Parhad o iu dalen 52./ Andreas. -N BEDWERYDD:—Sylwn ar symlrwydd a natur- ioldeb ei weithrediadau yn y tri amgylchiad a nodwyd, a'r fatli ganlyniadau mawr a phwysig a ddeilliodd oddi wrthynt. (a)—Ni wnaeth ond yn unig adrodd yn syml wrth ei frawd—"Nyni a gawsom y Messias" a'i arwain atto. Beth yn fwy syml a naturiol na hyny ? Etto, bu yn foddion i ddwyn at y Ceidwad un oedd i fod yn benaf o'r Apostolion, ac i'r hwn y rhoddwyd "agoriadau teyrnas nefoedd." (b)—Gweithred hollol syml a naturiol oedd galw sylw at y bachgenyn a chanddo bum torth haidd a dau bysgodyn: ond arweiniodd hyny i gyflawniad y wyrth ryfeddol o drugaredd i bum mil o wyr, heblaw gwragedd a phlant. (c)— A beth yn fwy naturiol a syml nag i'r gwas ddwyn yr ymwelwyr Groegaidd at ei Feistr ? Ond bu hyny yn achlysur i lanw meddwl yr Iesu âg yntsyniad dwys o'i farwolaeth agosaol, ac o lwyddiant rhyfeddol ei gyfryngwriaeth drwy farw'r groes. Ioan xii, 23, 24, &c. Yn bummed,—Gwelwn unplygrwydd meddwl Andreas yn yr achosinn uchod. (a)—Nid ymresymu a wna efe a'i frawd yn nghylch y pa un ai yr Iesu hwn ydoedd y Messias; nid yw ychwaith >n apelio at yr Ysgrythyrau, na thystiol- aeth Ioan Fedyddiwr am Grist: na, y mae yn fwy unplyg aphendant ei feddwl,—"nyni a gawsom y Messias" meddai, fel pe mai pwngc i'w "gredu yn ddiameu" ydoedd, ac nid i'w amgyífred na'i resymu. (b)—Ar lan mor Galilea nid yw yn coleddu amheuaeth parthed gallu yr Iesu i borthi y miloedd â'r ychydig fara; ac nid yw ei ofyniad "beth yw hyny rhwng cynifer ?" yn gyfystyr a gofyn beth allai neb wneyd i beri i'r ychydig fara hyny fod yn ddigon, ond yn