Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YMWELYDD. €yf. XXI.] IONAWR, 1897. [Rhif 1. ADGOF UWCH ANGHOF. Y Diweddar Stephen Jones, Ponciau, Rhos. (Pathaä o tu dalen 180. Çyf, xx.) 'N adeg y dadleuon brwd hyny, daeth Robert Rees, Llanfrothen ar daith bregethwrol i ymweled â'r eg- Iwys yn y Ponciau ; a chyhoeddwyd ef i bregethu aos Wener. Traethodd yn helaeth ei sylwadau cymerad- wyol o'r " ddysg newydd " fel y'i gelwid, ac yn mhiith pethau eraill dywedodd " nad oedd yi Arglwydd Iesu Grist ddim yn ei deyrnas nes i Ioan ei fedyddio ef yn afon yr lorddonen, mai dyna'r pryd y ganwyd ef i'w deyrnas ei liun." Wedi i'r gwasanaeth fyned heibio, goíynodd Stephen Jones—'* Robert Rees, pa un a'i yn fwriadol, ynteu yn ddifeddwî, y dywedaist—nad oedd Mab Duw ddim yn ei deyrnas ei hun, hyd oni fedyddiwyd ef gan ei was Ioan ? Attebodd yntau, mai yn fwnadoì, wrth gwrs, ac ychwanegodd gydamwy o bwyslais, nad oedd yn bosibl iddo fod wedi ei eni i'w deyrnas hyd nes y bedydrìiwyd ef. " Y mae hyn yn ymddangos yn hynod annghyson," ebai S. Jones; " ac yn fy nharaw i gyd â syndod—Pa fodd y gallodd y gwas roddi ei Arglwydd yn ei deyrnas ei hun,— yr hwn oedd er doe, yn llywodraethu yr hwn S)üd o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, yn Alpha ac yn Omega, ac uwchlaw pawb yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd ?" Wrth gwrs, cafodd y gwahanol bynciau mewn dadl ran helaeth o'u sylw y noswaith hono, a gofynodd S. Jones iddo—" A wyt ti yn bwriadu preget.hu y cyfeiiiorn- adau yma yn y Glyn Ddydd yr Arglwydd nesal?" " Ydwyf" meddai yntau, " Wel," ebai S. Jones, " nid ai rìi ddim i