Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SED" &îrwròfotor ^etosîŵûm a 3ai)fifeîrîrDîrau o fcai) matf). RHIFYN 12. Dtjdd Sadwm, Hydref 14, 1843. PR|$ CEÍNIOC. Spaen. Y mae yr ymsym- udiad pwysig a gymerodd le yn ddiweddar yn y deyrnas hon wedi peri cynhwrf trwy bob cwr o honi, yr hwn. nid yw yn debyg o ddarfod am lawer o fisoedd. Medi 14, yr ocdd yn ymddangos fel pe buasai haner trigolion y deyrnas wedi codi arfau, ac nis gwyddent yn iawn yn erbyn p'wy na pha beth. Yretholiadau sydd yn myned yn mlaen yn awr. Beth fydd y canlyniad, Duw yn unig a wyr. Groeg. Y mae chwildroad pwysig wedi cymeryd lie yn Athens, a gorfodogwyd y brenin i gymeryd ei noddfa ar fwrdd llon? Seisnig yn Pireus. Mae yn ymddangos mai yr achos uniongyrchol o hyn yd- oedd ymddangosiad rhyw bwngc yn y papur a elwir " Observateur 'of Athens," ar y í)f*ed o Fedi, yr hwn oedd yn hysbysu anfodd- lonrwydd y tri gallù cyngreiriol yn erbyn ffurf bresenol llywodr- aeth Groeg. Mae yn debyg y bydd i Rwssia ddefnycîdio y cyfleustra presenol i osod rhyw un o'i hanwyliaid ei hunan ar yr orsedd wag. Deheubarth yrAmerica. Y mae achoson yn dra dyrus yn y rhan yma o'r byd, Y mae arian yn brin; y mae pob mas- nach fel pe byddai wedi marw; ac y mae llawer mewn dirfawr eisiau. Dywedir hefyd fod y llywodraeth yn dlodaidd iawn, oblegyd y mae y milwyr yn Monte Video yn cael eu cadw ar haner digon o fwyd a gwisg- oedd. Nid oes ganddynt ddim digon o geíîylau hefyd: felly byddai yn hawdd iawn mewn adeg fel yma i ryw elynion wneud pen buan am danynt. Sydney. Y mae amryw lyth- yrau yn cael eu danfon o Sydney, i hysbysu am y trychineb sydd wedi goddiweddyd y drefedig- aeth, pigion byr o un tra diwedd- ar a ddodwn yn awr ger bron. " Dealled ein cyfeillion yn Lloegr nad yw ein dyoddefiadau pre- senol yn tarddu oddiar achosion naturiol; nid Duw a barodd y drygfyd hwn, ond dyn. Nid yr haint a fu yma yn ysgubo y trigolion i'r byd mawr; nid y loccustiaid a'r lindys a fu yn difa ein cnwd; ac nid y daeargryn a fu yn llyngcu ein dinasoedd, ac yn taenu braw a dychryn trwy ein tiriogaethau. Nage ! y mae Rhagluniaeth dyner Jehofa wedi bod yn dyner iawn o honom, ac wedi ein llwytho ni a phob rhyw drugareddau, a choroni éin blyn- yddoedd â daioni. Ië, y mae y wlad mor gyfoethog o ran ei chynyrch yn awr ag y bu erioed. Trwy ddyn, a dyn yn unig y dygwyd y gofidiau dieithr hyn i'n rhan; a thrwy ddyn, gyda bendith y Goruchaf gellir, a rhaid eu symud, a hyny yn fuan onitefe fyddein trueni yn fawr."