Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR YSPIWR, SEF &ìitoîrîrtot Netogìtòion a Hfrgfeìtòoìíatt 0 fcoi) maíi> RHIFYN 26. Dydd Sadwrn, Ebrill 27, 1844. PRSS CEÍr*IOC. HANESION T&AMOR. India.—Canlyniadau brwydr ddiweddar Gwalior ydyw fod heddwch cyffredinol wedi ei se- fydlu yn y wlad hòno. Y raae Gwalior wedi ei threfnu, cytun- deb wedi ei wneuthur, y brenin ieuangc wedi ei osod ar yr orsedd, a lluoedd afreolus Scindiah wedi eu diarfogi; ac y mae gryni ac awdurdod Prydain yn cael eu hofni a'u cydnabod. Eto dywed- irfod graddau o anfoddlonrwydd y'mhlith milwyr Bengal a Mad- ras, a hyny o herwydd eu bod yn cael eu gorchymyn i ymsymud i Scinde, yr hon a alwent hwy yn wlad dramor, yn yr hon heíyd ar y pryd yr oedd afiechyd dinystr- iol yn teyrnasu. Nid oes dim aflonyddwch na therfysg yn tori allan mewn un parth o Scinde, o herwydd mae Syr Charles Napier yn cadw ei fyddin o bymtheng mil o wyr mewn parodrwydd gwastadol ar gyfer y gwaethaf. Y mae yr afiechyd yn awr wedi arafu. China.—Y mae newyddion o China wedi dyfod i waered hyd Ionawr 12, ond nid oesynddynt nemawr hynodrwydd. Y mae masnaehau yn cael eu cario yn mlaen er mawr foddlonrwydd yr awdurdodau Chincaidd a Bryt- anaidd. Eto mae uu yn ysgrifenu nad y w yr agwedd bresenol sydd ar bethau yn China i barhau yn hir, o herwydd dywedir eu bod yn dirgel ddarparu al ryfel. Fe glywir swn ergydio gwastadol o Whampoa, adywedir fodlluoedd 0 filwyr yn ymarfer à'r gelfydd- ryfelwriaethol o ddydd i ddydd. Nid oes genym ni, modd bynag, hawl i gweryla ag un genedl am wellhau a chryfhau eu gaìluoedd milwrol, a dir yw mai dyma yw amcan y Chinëaid, o herwydd ar 01 iddynt weled grymusderau a medrusrwydd y Saeson mewn rhyfel, yr'oedd yn naturiol idd- ynt hwythau ddymuno bod yn j debyg iddynt. Y mae arfau tân, sef gynau a drylliau yn gwerthu j wrth y miloedd. Pe digwyddai | rhyfeîeto rhyngddynt â'r Saeson, | ond odid na byddent yn fwy | llwyddianus na'r waith gyntaf. | America.—Fe gymerodd dig- ; wyddiad gofidus le yr ail o'r j mis diweddaf, ar yr Hen Afon, I gerllaw Atchafalaya, yn New Orleans. üddeutu dau o'rgloch \ yn y boreu, a hi yn bur dywyll, | daeth yr agerdd-Iongau Soto a i Buckeỳe yn erbyn eu gilydd, ac j fe suddodü y ddiweddaf mewn 5 ; mynyd ar oí iddi daro. Yr oedd I oddeutu tri chant o bobl ar ei ! bwrdd, 80 o ba rai a gollwyd. Yr | oedd y rhan fwyaf o'r ymdeith- I wyr y'n cysgu, pe amgen gallesid achyb ychwaneg o honynt. Y funyd y tarawsant yr ydoedd y gwaeddi mwyaf arswydus a thor- calonus ar fwrdd y ddwy loug, ond ni dderbyniodd y Soto ne- mawr niweid, a gwnaeth y cad- benei oreu ar ran y Buckeye.