Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TYWYSYDD A'R GYMRA.ES. Rhif. 9. MEDI, 1852. Cyf. I. CYSUR TEULUÄIDl). (Parhado Tudal. 154.) Gadawsom ein darllenydd ar y pwnc hwn i gael rhoddi lle i frawd arall y mis diweddaf. Addawsom wrth ymadael, i roddi cyfarwyddiadau i gyrliaedd y pethau a enwasom, í'el hanfodion cysur a dedwyddwch teuluaidd. Er cael cysur yn y teulu, rhaid i bob un wneud ei ran yn rheolaidd ac addfwyn gydag amgylchiadau y teulu.—Y diffyg o hyn sydd wrth wraidd ceintachrwydd cymdeithasol gan fynychaf. Pe chwiliem i ansawdd y cynhyrfiadau gwladol, yr aflonyddwch gweiinol, a'r tyrfu cyffredinol a ffyna yn gyfandirol ac yn artrefol, nid anhawdd canfod eu bod yn cyfodi oddiar dueddiadau hunanllyd rhai i fyw yn foethus a segur ar ffrwyth llafur ereill. Mỳnant fwy na'u rhan, ac ni wnant ddim, yr hyn a bair i'r dosbarthiadau cynyrchiol i suro a grwgnach, a bygwyth. Teimlir na ddylai un dyn gael ei gynal yn segur, a bod hyny yn dòriad ar drefn Duw, " Yr hwn ni fyno weithio, na fwytaed chwaith.'' Nid oes dim yn holl lywodraeth Duw yn segur ond ambell i ddyn. Nid rhyfedd fod y rhai sydd yn gorfod ei gynal yn chwerw, oblegid y mae yr holl greadigaeth yn ei gollfarnu. Pe olrheiniem hefyd ein hang- hysur, a'n rhwygiadau, a'n haflonyddwch eglwysig, i'w gwraidd, caem hwynt gan mwyaf yn codi o'r ffaith fod rhai yn rhodresgar a segurllyd yn yr eglwys, na fynant wneud dim eu hunain, ac a wgant ar y neb a wnelo ddim, gan fod hyny yn eu condemnio hwy. Felly y mae yn mhob cymdeithas arall os na fydd pob un corff; ac ni all y llygad ddywedyd wrth y liaw, nid rhaid i mi wrthyt, na'r pen ychwaith wrth y troed, nid rhaid i mi "wrthyt; fel na byddo anghydfod yn y coiff, eithr fod i'r aelodau ofalu yr un peth dros eugilydd:" 1 Cor. 12, 14—-26. Y mae mwy yn dod ar rai os na f'ydd pawb yn gwncud eu dyledswydd; ond llo y byddo pawb" yu cadw eu lle, ac yn