Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TYWYSYDD A'R GYMRAES. Rhif. 17. MAI, 1853. Cyf. II. YMOGELWCH RHAG GAU-ATHRAWÖN. Gau-broffwydi oedd y gelynion rawyaf peryglus i wir grefydd yn tnhlith yr Iuddewon, felly y mae gau- athrawion wedi bod drwy wahanol oesau'r byd yn mhob man lle y byddent. O'u hachos, lawer gwaith, y clywid Seion yn cwyno, ac y gwelwyd hi â'i gruddiau yu wlyb gan ddagrau. Beth, medd y darllenydd ieuanc, a ydyw y teulu uchod i'w gochelyd ? Ydynt, f'y nghyfaill ; atolwg paham ? O herwydd gwnant er dy gael o'r iawn i fagl y diafol, oddiar y ffordd sydd yn arwain i ddedwyddwch, i'r un sydd â'i phen draw mewn anobaith tragwyddol. Dichon y byddantyn foddlawn i'th gusanu, ond gwybydd na bydd ganddynt ddim amgenach mewu golwg na dy fradychu. Byddant yn foddlawn i ti gysgu arhoddipwys dy ben ar eu gliniau, ond diau y golygant gael " saith cudyn dy rym" cyn ymadael. Gv\ nant, fel y Joab hwnw, edrych yn siriol yn dy wyneb, eto ar yr un pryd, bydd eu calon yn sychedu am dy waed. Dichon y gwasanaetha yr hyn a ganlyn ergalluogi rhywun i'w hadnabod yn well. 1. Ymdrechant eu gorau er enill iddynt eu hunain y cymeriad o "foddlonwyr dynion." Amcanant at byn'e anfoddloni o honynt yr Arglwydd wrth hyny. Os pre- gethu y byddant, gwnant hyny er boddhau'r glust yn fwy nag er llesâu yr enaid. " Ÿ vhai a dc'y wedant wrth y gweledyddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn; traethwch i ni wen- iaeth,proffwydwch i ni siomedigaeth." Pan ymaflant yn mhethau santaidd y cysegr, y nôd uchaf' sydd ganddynt mewn golwg ydyw eu hunan twyllodrus. Parod ydynt