Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

f Ìpgapí aỳr (IfWflfE Rhis. 2. CHWEFROR, 1854. Cyf. 1. "Î9íietì)tnefj # petî) penaf." •'PiENAP peth yw doethineb, cais ddoethineb; ac à'th hol; gyfoeth cais ddeall."—Diab. 4, 7. 1. Yn beth penaf o ran ei tharddiad.—Rhodd Duw ydyw. Penaf peth Duw. Rhodd benaf^ Jehofa i bechadur. Ei roddion ef ydynt ein bywyd, a'n iechyd—Ei lîn a'i wlan a'n dillada—Efe a'n portha â bara beunyddiol—Efe a rydd i ni ddyddiau, misoedd, blyneddoedd, haf a gauaf, oerni a gwres, amser hau ac amser medi—Efe a rydd i ni dymorau ífrwythlon, gan lenwi ein caionau â lluniaeth ac â llawenydd—Efe a wlawia ar y cyfiawn, ac ar yr anghyfiawn—Ei haul ef a gyfyd ar y drwg ac ar y da—Coroni y mae efe ein blyneddoedd â daioni, a'i holl lwybrau a ddiferent frasder—Daionus yw yr Arglwydd i bawb, a'i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd. Ond o'i holl ddoniau annhraethol i ddyn mewn creadigaeth a rhagluniaeth, diangant megys o'r golwg wrth eu cyferbynu â'r rhodd hon. Dyma y rhodd benaf, Doethineb. Costiodd y dygiad o honi i gyrhaedd pechadur yn ddrud i Dduw. Yr oedd y pechadur gwedi syrthio i ddyfnder gwae a thrueni: ac oni buasai i Dduw o'i anfeidrol gariad, ei ras, a'i drugaredd, i gofio am dano pan yn ei isel radd, fe fuasai yn dylawd a thruenus am dragwydd- oldeb. Ond efe o'i gariad tragwyddol a feddyliodd am danom feddyliau o hedd: ac yn nghyflawnder yr amser efe a anfonodd ei Eab i'r byd, ei unig-anedig Fab, Mab ei gariad, ac Oen ei fynwes. I ba beth ? Mewn trefn i ddwyn y ddoethineb hon i'n meddiant