Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

f Ẃptjstjìtìt ù êi\mxm. Rhif. 10. HYDREF, 1854, Cyf. 1. AT Y CYMRAESAU. Tybiwn nad ocs yr un cyhoeddiad yn fwy priodol i siarad â chwi'r Cyrnraesau na'r hwn ag sycld mewn rhan yn dwyn yr enw Cymraes. Ef'allai nad yw pawb o honoch yn gwybod am sefyllfu eich rhyw mewn ychwaneg o wledydd na gwlad anwyl hoff eich gencdigaeth; a dichon fod llawer o honoch ẁedî arfer meddwl eich bod yn cael y parch a'r anrhydedd yn mhob man ag a gewch rhwng bryniau gwyllt Walia, ond nid felly y mae. Bydd y driniaeth ga llawer o anifeiliaid, lle mae Cristionogion, yn well na'r hyn a ga y rhyw fenywaidd mewn llawer lle nad yw hi. Mae yn ddyledswydd arbenig arnoch chwi i barchu crefydd Crist: lle mae hi cewch chwi barch, lled nad yw hi ni chewch ond yr anmharch, y diysi- tyrwch, a'r creulondeb mwyaf. Edrychwch i Hindwstan ofergoelus, eilun-addol- gar, pa ddrychfeddwl sydd ganddynt hwy am y rhyw deg: nid oes neb. yn fwy hoff o blant, eto ystyriant yn fath o farn ar y teulu pan cnir plentyn benyw ; pryd hyn ni fydd neb yn ilawen, na rhoddion yn cael eu cyfranu rhwng y cymydogion.nac agwedd siriol ar wyncbpryd neb o'r teulu fel y bydd pan enir plentyn gwryw yno. Bydd y fam anffodusyn gorfod treulio deng niwrnod yn hwy mewn seremoniau caethion blinion, a chreulon ar enedigaeth merch nag ar enedigaeth bachgen. Yn ddiwedclar pan glyw- odd boneddwr dysgedig brodorol yn Bombay, am encdigaeth merch mewn teulu Saxonaidd oedcl wedi mudo yno, aeth yno yn union i'w cysuroyn eu adfyd