Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

f Ŵpqaqìtìt a't fâyattttB. Rhif. 12. RHAGFYR, 1854. Cyf. 1. GWEITHREDOEDD DUW. *' Yr hwn sydd yn swneuthurpethau mawrion ac anchwiliadwy, rhyfeddol, hebrifedi,"—Job 5, 9. ' 1. Heìaethrwydd mawreddog gweithredoedd yr Ârglwydd—"Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion."—Pethau mawrion yn y greadigaeth. " Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth, ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a r a wnaethpwyd." " Pan edrychwyf ar y nefoeûd, gwaith dy fysedd; y lloer, a'r ser, y rhai a ordeiniaist." " Yr hwn a wnaeth y saith seren ac Orion, ac a dry gysgod angau yn forau dydd," &c. "Ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion." Efe greodd yr holl fydoedd, a'r miliynau bodau sydd yn eu preswylio, o'r gwybed- yn hyd yr eryr, o'r abwydyn hyd y cawrfil, o'r milyn hyd y morfil, ac o'r dyn hyd yr angel, &c. Y mae dynion wedi gwneuthur pethau mawrion, ac yn parhau i wneud gorchestion a rhyfeddodau. Colum- bus yn darganfod America, Herschell a Newton yn •ael gafael ar sêr a phlanedau; ond cafodd Duw hwynt allan o groth diddymdra ; Wellington yn cael ei alw yn " Ilero ofan hundred battles;" ond beth ydyw hyny at orchestion Duw; Stephenson yn codi y Brittania Tube, ond Duw yn codi yr ynysoedd i íyny fel brycheuyn. Esgyna un yn ei Air Baloon ; ond gwna Duw y cymylau yn gerbyd iddo. Y mae dynion yn plygu yr elí'enau i fod yn weision i lusgo peirianau, &c.; ond y mae Duw yn cadw bydoedd mawrion i deithio yn rheolaidd, ac heb gymaint ag