Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 42. MEHEFIN, 1857. Cyf. 4. "Y JOHN WILLIAMS." Mae ein darlun am y mis hwn yn wyneb-lun o'r llong Genadol "John Williams," ar ei mordaitb. allan i'r Môr Tawelog, y tro diweddaf, wedi bod yn Lloegr yn cael ei hadgyweirio. Mae yn hysbys i'r rhan luosocaf o'n darllenwyr, mai llong yw hon a bwrcaswyd, ac a adgyweiriwyd ddwy waith wedi hyny, gan blant y deyrnas hon ; a chafodd ei galw yn " John Willìams," er mwyn John Williams, Merthyr anfarwol Erromanga ; yr hwn, wedi i Gyfarwyddwyr