Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

f Ŵppjìẁ tft Ipp Rmr. 172.] EBRILL, 1868. [Cyf. XV. TEIMLAD Y DYN DA YN NGLYN OYSGOD ANGEU. Oyfeiriasom sylw ein darllenwyr at y glyn yn ein rhifyn diweddaf. Oawn yn awr edrych ar y credadyn yn myned i'r glyn. Ei deimlad yw, "Nid ofnaf niwed.'' Nid yw hyn yn milwrio yn y mesur lleiaf yn erbyn yr hyn a ddywed- asom o'r blaen o barthed i'r dychryníeydd cysylltiedig a'r amgylchiad. Yn y xxiii. Salm yr ydym yn cael dyn wedi ymgodi uwchlaw ofn marw—dychryn marwolaeth wedi ei symud. Peth mawr yw gorchfygu ofn marw i'r fath raddau fel ag i allu cymeryd yr olwg agosaf arno heb ofni niwed—heb wylltio dim—heb aflonyddu ein hysbryd, ac heb afionyddu ein heddwch. Mae hyn yn bosibl—yn gyrhaedd- adwy; ond cofìer mai rhagorfraint rhinwedd yw. Bu athronwyr yn ceisio dysgyblu eu dysgyblion yn y wers hon, ac yn proffesu mai dyma oedd dyben mawr athroniaeth, sef galluogi ei phleid- wyr i orehfygu ofn marw. Gadewch i ni cyn dyfod o honom i sylwi yn neillduol ar y gwir nerth i orchfygu yr ofn yma, i edrych ar yr hyn mae rheswm yn ei gynyg ar y pwnc. Gofyna rheswm, pa eisieu sydd i ehwi ofni angeu? paham na chymodech a'r am-