Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 174.] MEHEFIN, 1868. [Cti. XV. PEIODAS TE OEN. " Daeth priodas yr Óen, a'i wraig ef a'i parotodd ei hun." Tybia rhai fod y briodas yma yn golygu rhyw ddiwygiad raawr yn yr eglwys, ar ol iddi fod yn hir wrthod symledd Orist, ac yn gwisgo a phrydferthu ei hunan ag addurniadau daearol —ei bod yn dyfod yn ol i'w diwyg briodol ei hun, gan ymwrthod a phob dynol ddefodau. Tybia ereill mai dymchweliad eilunaddoliaeth, pob coelgrefydd, a gorchfygiad anghrist, olygir, pryd ag y bydd yr eglwys mewn cyfiwr mwy gogoneddus nag y bu erioed o'r blaen. Tybia ereiil mai golygu y mae ddychweliad yrluddewon, i broffesu Crist yn Fessiah, yr hyn beth a gyfiawna ddinystr y Babaeth, ac a lwyr- ddilea bob anghristiaeth am byth. Tybia ereill mai rhyw gyfnod ydyw ag y rhydd lesu Grrist ryw arwyddion cyhoeddus a neillduol o'i berthynas a'i eglwys, nes ei gosod mewn cyfiwr o urddas a dedwyddwch cyfatebol i'w pherthynas ag ef. Tybia ereill mai adeg fendigedig y mil flwydd- iant ydyw, adeg pryd na bydd dim amheuaeth ganddi hi ei hunan, na chan neb arall, o'i pherthynas ag Ef, ** yr hwn yw ei Phen." Y mae hi yn awr, gan amlaf, fel rhy w alltudes