Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 33. EBRILL 14eg, 1866. [Ctf. III. TAITH I FORGANWG. fmae y Rheilffordd yn dileu pellder, fel nad ydyw myned o'r Gogledd i Ddeheudir Cymru weithian yn werth ei galw yn daith. Cychwynasom foreu Llun Chwef. 5ed ac yr oeddym yn Brynmawr yn gynar yn y prydnhawn, yn mwyn- hau cyfeiilach siriol a charedig Mr. Jenkins, oriau cyn am- ser yr oedfa. Yr oedd un peth tra dymunol yn y cwrdd, hoffem weled hyny yn fwy cyffredin, pawb bron wedi dyfod yn nghyd yn gynulleidfa gryno erbyn y dechreu. Y mae yma olwg lewyrchus ar yr achos mawr, a'r brodyr yn y weinidogaeth yn cyd-weithio yn galonog. Hyfryd oedd gweled y fath undeb rhwngy brodyr o wahanolenwadau yma. Nos Fawrth, aethom i Cendl, noswaith lled wlawog; Capel newydd hardd, a'r gweinidog newydd, Mr. Hughes, yn Uawn calon yn y gwaith. Dywedid wrthym y buasai y gynulleidfa yn* llawer lluosocach, oni bae y dywydd an* ffafriol; ond nid oeddym ni yn cwyno, tybiem hi yn gynull* eidfa dda, ac astud; gwelsom yr hen chwaer "PegWi" yma, y mae ei thelyn heb ei rhoddi ar yr helyg eto. Y mae yn addaw gwneyd ei goreü dros " Yr Ardd", yr oedd yn dda genym gael gwasanaeth un mor ffyddlawn. Diolch i'n hen gyfaill Mr. Evans; nid oeddym yn med'dwl crybwyll dim am " Yr Ardd ", oni buasai iddo ef wneyd. Y mae ganddo ef dalent i wneyd liyfr, ac i'w werthu hefyd. Mercher.— Cawsom dipyn o bob math o deithio; Rheil-