Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Rhif. 50. MEDI 14üdeg, 1867. [Cyf. IV. CYNYDD CRISTIONOGAETH. /föELLIR priodoli cynydd dirfawr y grefydd Gristion- ™ ogol yn benaf i burdeb ei natur, cywirdeb ei hegwyddorion, a gwiredd ei tbraddodiad. Cynygiwch cbwi y peth a fynoch i'r byd, os na fydd tuedd y cyfry W beth at lesoldeb, os na fydd o ran ei natur yn bur, di- dwyll, a da, nid hir iawn y bydd cyn adfeilio, gwywo, a marw. Cynygiwyd Mahometaniaeth i'r byd, a derbyniwyd hi gan nloedd. ond yr oedd canrif ar ol canrif yn datgnddio i'r werir.os ei dirgeledigaetbau twyllodrus, ac yn taflu. goleuni adnewyddol ar hen heresi gwael, tywyll, ac ang- byson Mahomet a'i ganlynwyr. Gyrid hi yn mlaen trwy rym arfau rhyfel, arddelid hi gan fawrion y gwledydd, a rhoddid iddi gefnogaeth, a derbyniad croesawgar gan laweroedd; ond wedi'r cyfan ni íynai gynyddu, na, canfyddwyd yn ebrwydd olion y darfodedigaeth yn ei gwedd, a buan, buan, y daw dydd trancedigaeth y gyfundraeth Fahometanaidd. Gwelodd Cristionogaeth gyfnodan erledigaethus, a blinion, a chlyw- odd floeddiau taranllyd y wei in yn llefain yn ddibaid am ganrifoedd yn olynol «'ymaith a hi,—diddymer hi," ond wedi y cyfan cynyddu y mae Cristionogaeth yn barhaus. Tyngai Lioclesion un diwrnod y mynai ddiwreiddio Cristionogaeth o'r wlad, tynodd i lawr ugeiniau o'i heglwysi, merthyrodd filoedd o'i phroffeswyr, a llosgodd