Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif. 4.] EBRILIi, 1836. [Cyf. I. EGWYDDOR LYWODRAETHOL Y GWJR GRISTION. Egwyddor lywodraethol y gwirgredadyn, yw íFydd yn gweithio trwy gariad. Y mae cnriad Duw wedi ei dywallt ar led yn ei galon trwy yr Ysbryd Gh'm, yr hwn a roddwyd iddo pan ailanwyd ef. Gorchymyn cyntaf, agorchymyn mawr y ddeddf foesol yw, " Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'thholl galon, ac â'th holl enaid, ac íi'th holl feddwl;" a dyma y ddyled- swydd gyntaf, a dyledswydd fawr pob creadur deallawl yn mhob man o lywodr- aeth y Tragwyddol Fôd. Ond nis gelìir ei garu heb ei adnabod. Fel y dywedodd Ioan, "Yr hwn nid yw yn caru,nid adnabu Dduw," y gallaffinau ddywedyd, "Yr hwn nid adnabu, nid yw yn caru Duw;" ac nis gall pechadur ei garu heb ei adnabod yn ngwyneb Iesu Grist, trwy yr efengyl. Crist yw yr hwn sydd yn datguddio natur a gogoniant y gwir Dduw i ni, y wybod- j aeth o ba un yr oeddym wedi ei cholli trwy | bechod. " Ni welodd neb Dduw eriocd; ; yr unig genedledig Fab, yr hwn sydd yn '; mynwes y Tad, hwnw a'i hysbysodd Ef." Efe hefyd sydd yn gwneyd ein heddwch ni ; â Duw, yr hwn yr oeddym wedi ei gyth- j ruddo trwy ein troseddau: oblegid, "gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae genym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd lesu Grist." Ac efe sydd yn cymodi ein meddyliau ni â Duw, trwy ddangos i niei drngaredd a'i ras, ei ddaioni a'i gariad tuag atom; fel ag y gall efe ddywedyd yn iawn am dano ei hun, "Myfi yw y rTordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid oes neb yn dyfod at y Tad, ond trwyof fi." Cyhyd ag y byddo yr enaid yn gorwedd o dan lwyth o euogrwydd pechod anfaddeu- ol, ac yn gweled pob priodoledd ddwyfol yn arfogedigyn ei erbyn â dychryn,nisgall fod o'i fewn nemawr amgen nag ofn caeth- wasaidd. Ond pan y maeyn clywed addew- id rasol o faddeuant; pan, wrth chwilio ac ystyried y profion, y mae ei ofnau a'i am- heuon yn cael eu symud ; pan y mae yn gweled y syifaen gyfiawn ar yr hon y mae maddeuant wedi eihadeíladu, ymaeynym- aflydynddi fel ei eiddo ei hun, acyncael ei unoûDuwtrwy gariatl diffuant. Trwy y dar- ganfodiad ag y mae efe wedi ei gael o wir hanfodol natur ac anfeidrol hawddgarwch Duw, ac o'i drefn drugarog a chyfiawn trwy Gyfryngwr, i faddeu a glanhau, y mae yr ewyllys wedi ei hadnewyddu; y mae yn cymeradwyo ac yn derbym y pethau ag ydynt ragorol; ac yn cael y fath argi-affar y galon, o rwymedigaeth deddf Duw, ag sydd yn annileuadwy. Deddf ei Dduw syddyn ei galon ef, cyflawnderyr hon yw cariad. Y cariad hwn, er yn wan mewn mesur a graddau, eto yn berffaith o ran natur, ac felly yn nerthol mewn dylanwad, yw egwyddor orchymynol ei holl weith- rediadau dyfodol. Y mae yn amlygu ei ddylanwad yn barhaus, oddieithr cyn belled ag y gwrthwynebir ac y gwrth- weithredir ef gan ymdrechiadau gweddill- ion y ddeddf sydd yn aelodau perchen y cariad, yn gwrthryfela yn erbyn deddf Duw sydd yn ei feddwl. Yr egwyddor hon o gariad sydd yn tueddu y credadyn i fod yn ddiolchgar i Dduw, ac yn haelfiyd- ig i ddyn. Yn ddiolchgar i Dduw ; nid yn unig fel Cymwynaswr haelionus, yn cyfranu trugareddau tymorol anhaeddian- nol, ond i'r íachawdwr gogoneddus am ei garu, ac am ei olchi oddiwrth ei bechodau yn ei waed ei hun, a gwaredu ei enaid rhag angau. O y fath deimlad dwfn a dwys a raid fod yn nghalon y credadyn! O gariad pryniannol y Gwaredwr! Ar ba nifer o amgylchiadau y mae yn sefyll, yn aros, ac yn myfyrio, y rhaiydyntyn gwasanaethu i fawrhaugras Duw, ac i nodi allan rymusder ei rwymedigaethau ef ei hun! Pan y meddylia am anfeidrol fawredd a gogoniant Duŵ, fel Bòd annibynol a holl-