Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif. 5.] MAI, 1836. [Cyf. 1. AM WYBODAETH. Dyn yw y creadur ardderchocaf a'r a greodd y Duw mawr o'r holl greaduriaid a drigant ar wyneb y ddaear. Ac un o'r rhagoriaethau perthynol iddo yw ei wy- bcdaeth. Dyma un o'r addurniadau ag sydd wedi ei gynysgaethu âg addasrwydd i fod yn arglwydd ar yr holl greaduriaid pa rai a greodd yr Unigddoeth. Dyn yw yr unig wrthddrych sydd yn berchen ar gyneddfau cymhwys i dderbyn 'gwybod- aeth, i dreiddio i mewn i'w mwngloddiau godidawg, ac i ddwyn allan drysorau cuddiedig; a mawr yw yr ymgais sydd gan ddynion am wybodaeth am wahanol bethau, a phob un am ei ran ei hun, pa un bynag ai anianyddiaeth, seryddiaeth, ath- ronyddiaeth, morwriaeth, &c, &c. A mawr yw awydd dyn am wybodaeth; 'ie, pe medrai ei gyraedd, y perffeithrwydd o honi. A mawr yw y medr a ddangosayn ffurfiad gwahanol gyfryngau i'r cyfryw amcan,— megys y gwydrddrychau, &c.; a ehymer- ant y cyfryw fel rhyw longau godidawg i ddwyn nwyddau anmhrisiadwy, pa rai sydd gynwysedig mewn gwybodaeth ; a dyma y soddgloch (divi?ig belí) yn mha un y treiddia i ddyfnderoedd y môr diwaelod hwn, gwybodaeth. Pe byddai holl ddysg- edigion y byd yn llafurio, ac yn treiddio i mewn i'r dirgeledigaethau, ac yn cloddio i'w mwngloddiau godidawg yn ddiarbed, gallai gwybodaeth ddywedyd, " Y dirgel- ion sydd eiddof fi; trysorau cuddiedig o hydsydd yn fy meddiant." Yn awr, sylwn ar y testun yn y drefn ganlynol:— 1. Cynydd gwybodaeth.— Gormod o waith fyddai myned yn ol, a syllu ar ddull y byd yn y cynoesoedd, ac olrhain y di- wygiadau pa rai a gymerasant le yn ngwa- hanol oesau y byd, a phwy oedd y diwyg- wyr, pe medrwn yn hyddysg wneyd hyny. O ganlyniad, cymeraf y drefn ganlynol,— sef, cyûydd gwybodaeth dyn yn unig. Nid peth a berchenogir gan ddyn ar un- waith yw gwybodaeth; ond i'r gwrth- wyneb, yn raddol y mae yn dyfod yn fedd- iannydd ar y trysor ardderchog yma. Nid yw y dydd yn llewyrchu ar unwaith: yn gyntaf, gwelir y wawr ; wedi hyny y mae yr haul yn dechreu ymddangos, ac felly y mae yn myned yn oleuach-oleuach hyd ganol dydd. Felly y rnae dyn unwaith yn faban, megys toriad y wawr; a chyn hir fe ddaw yn ŵr ieuanc, ac yn fuan efe a oddiwedda ei hannerdydd; ac fel y mae ei ddyddiau yn amlhau, feüy y mae ei wybodaeth yn cynyddu. Gwelwyd yr enwog Newton unwaith yn yr ysgol yn dysgu yr A B C; ond wedi hyny cynydd- odd fel y wawrddydd—aeth yn ben dysg- awdwr. Gwelwyd Socrates unwaith yn faban heb ddeall egwyddorion gwybod- aeth ; ond cynyddodd, ac aeth yn enwog mewn dysgeidiaeth; 'ie, bu yn athraw i Plato a Xenopho"n. Gwelwyd Demosthe- nes yn bloesgdori acen mebyd; ond gweí- wyd ef wedi hyny yn llywodraethu y bobl trwy nerth ei hyawdledd anwrthwynebol. Felly yn raddol y daeth yr holl ddysgedig- ion i fod yn ddysgedig; ond er mai yn raddol y cyrhaeddir gwybodaeth, eto gwy- bodaeth a'n cyfarwydda i ddadJenu rhy- feddodau anian, ac í syllu gyda syndod ar amrywiol ranau y greadigaeth. 2. Lles gwybodaeth.—Yr wyf yn addef fy mod mewn maesrhy eang i fanylu; ond codaf rai tywysenau. Trwy gymhorth gwybodaeth, yr amaethwra fraenara ei dir, a dafl ei had i'r ddaear, ac a ddysgwylia am gnwd. Masnachyddiaeth, marsiandi- aeth, &c, &c; o dan olygiad gwybodaeth y dygir yr holl bethau hyn yn mlaen. Hwyliad y Uestri mawrion dros yr eang donau, ffurfiad y peiriannau agerddawl, pa rai a gyfiym deithiant, a lluoedd o beth- au cywrain o bob oes, o bob 11 un, lliw, a gwlad, rhy aml i'w henwi, gall gwybod- aeth ddywedyd am danynt oll, " Myfì a'ch