Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Rhif. 8.] AWST, 1836. [Cyf. 1. ANNGHYSONDEB ANFFYDDIAETH. " Father of ìight and life ! tliou Good supreme ! O teach me what is good ! teach me Thyself! Save ine f'rom folly, vanity, and viee, Frotn every low púrsuit!"— Thomson. Hysbysir i ni gan ysgrifenydd ysbryd- oìeàig, yr hwn oedd yn dra adnabyddus àg y sefyllfaoedd uchaf o wareidd-dra prif genhedloedd y ddaear, nad ydoedd y byd yn ndnabod Duw trwy ei ddoethineb. Y mae holl lëenyddiaeth enwocaf henafiaeth yn eglurhau ac yn profi yrhoniad; ac ni raid i ni ond darllen ychydig dudalen- au o waith Homer, Virgil, neu Cicero, ar natur y duwiau, er ein gwneuthur yn hys- bys o wrthuni amldduwiaeth {polytheism). Y nefoedd ac y ddaear, y môr ac yr afon- ydd, y llynau ac y ffynnonau,ymynyddau ac y dyffrynoedd, ac yn agos pob gwrth- ddrych oeddynt yn meddu eu duwiau pri- odol, ac y rhan fwyaf yn ddynodedig âg yr holl ddrygau a ddiraddiasant y byd, ac a flinasant ddynoliaeth. Mor anwybodus oeddynt y rhai hyny a feddiannasanty wybodaeth oraf, ac yr ath- rylith enwocaf, fel na wyddent ddim am yr unig a'r bywiol Dduw. " Y mae yn dra anhawdd," medd Cicero, "ddatguddio Perydd y bydysawd ; aphegellidgwneuth- ur hyny, byddai yn anmhriodol eiwneuth- ur yn adnabyddus i bobl gyffredin. So- ciates liefyd, efallai y doethaf a'rgoraf a ymddanghosodi yn y byd paganaidd, yd- oedd yn eilun-addolwr. Yn ei fynydau olaf gorchymynodd i u'a o'i gyfeillion ofF- rymu ceiliog drosto ef i Esculapius. Yna, gwir yw, y byd trwy ei wybodaetb nid ad- nabu Dduw. Y mae yn wir fod dynohryw, yn yr oes hon, 'ie, hyd yn nod yr anfFyddiwr ei hun, yr hwn a wada awdurdod a gwirionedd y dwyfol ddatguddíad, yn fwy gwybodus am y nodwedd dwyfol. Y mae yn ddiau nad oes ganddo athrylith fwy dyrchafedig na Homer neu Virgiì, na Socrates neu Ci- cero; y mae yn derbyn ei oleuni mwyaf oddiwrth air Duw yr hwn a wrthoda, Yn mhlith nodweddion ardderchocaf y datguddiad dwyfol, y mae ei fod yn cyf- Iwyno i ni ddarluniad eglur o nodwedd y Duwdod. Dyweda i ni ei fod yn un, ac nad oes duwiau ereill ond efe; ei fod o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb; ei fod yn ysbryd, ac y dylid ei addoli mewn ys- bryd a gwirionedd, ac mai efe a wnaeth bob peth trwy ei air, ac o ganlyniad yn meddu ar allu anfeidrol i gyíìawni ei ew- yllys; ei fod yn hollbresenol, ac yn adna- byddus ûg ystafelloedd mwyaf dirgelaidd y galon, ac o flaen ei olygon nad yw ty- wyllwch nos ond fel llewyrch dydd ; fod holl oludoedd ei ddoethineb, ei ddaioni, ac ei drugaredd, yn anchwiliadwy ; ei fod yn ddifrycheulyd mewn cyfiawnder a sant- eiddrwydd, ac nad ydyw y nefoedd yn iàn yn ei olwg ; ac ei fod yn annghyfnewidiol yn ei ••.rdderchog ragorion annghymharol, Y rhai hyn ydynt y syniadau a geir yn ffurfio sylwedd y datguddiad. Y dysgrifiad a roddir o Dduw gan anffyddwyr nid yw fel hyn, ond fel y dywedodd y Dr. Young, "They set at odds Hearen's.iarring attributes, AtìÀ with one excellenee anotlier wound." Yn mha le y cafodd yrysgrifenwyr sant- aidd eu huwch wybodaeth ? A oeddynt hwy yn ddoethach na'r henafion? Na, ond dywedantiddyntdderbyneu doetuineb oddiuchod. Y mae mawr wahaniaeth yn y dys- grifiad a roddir gan anffyddKvr am nod- wedd yr achos cyntaf, ragor yr hwn a ddatgnddir trwy oleuni yr ysgnthyrau. Dywed Arglwydd Bolingbroke,—" Y mae yn amlwg fod y Duwdod yn alluog a doeth, ond nid allwn briodoli iddo ddaioni na santeiddrwydd." Addefa Yoltaire fod rhyw fòd goruchaf, tragwyddol, ac anam- gyffredadwy, ond pa un a y w yn santaidd,