Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Cyf.2.1 MAI, 1837. [Rhif.5. YSTYRIAETHAU AR FARWOLAETH. Marwolaeth ynddi ei hun sydd yn cy- nwys y drychfeddyliau mwyaf sobr a dif- rifol i bob dyn ystyriol, yn gymaint a'i bod ar unwaith yn gosod terfyn ar ein bodoliae'h yma, ac yn agoryd tragwydd- oldeb diderfyn o'n blaen. Y mae y sicr- wydd o ddyfodiadyr amgylchiad rhyfedd- ol hwn, tuhwnt i bob amheuaeth ; oblegid yr ydym wedi ein goleuo, trwy air Duw, a thrwy siamplau nodedig o ddydd i ddydd, wrth weled ein cymydogion a'n cyfeillion o bob gradd yn cael eu cario i'r bedd, wedi teithio y Uwybr na ddychwelant mwyach yn ol. Am hyny iawn y gallwn ofyn gyda'r prophwyd, " Eich tadau, pa le y maent hwy ? a'r prophwydi, a ydynt hwy yn fyw byth?" Zech. i. 5. Fe ddywed y philosophyàdion am farwolaeth, mai hi sydd fwyaf i'w hofni o bob peth, ac yn ofnadwy, am ei bod yn ddiwedd ar fywyd. Beth a ddywedasent pe buasent yn gwy- bod eu bod i ddechreu tragwyddoldeb heb ddiweddiad iddo ? Nid oes neb nas gall lai nâ theimlo yn ngwyneb yr ym- ddattodiad mawr yma, pan y meddylia am fynyd ei fod i adael pob peth daearol ar ol, a gwynebu ar fyd ysbrydol, i fyw yn mhlith ysbrydion digyrph. Nid oes neb dyn yn gallu penderfynu yn sicr pa beth yw marwolaeíh, ac ni welodd yr Ys- bryd tragwyddol yn oreu ei datguddio i ni, ddim mwy nag ysgariad corph ac enaid oddiwrth eu gilydd, fel y tystia y gŵr doeth, " y dychwel y pridd i'r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef." Ond y mae yn ddiau fod marwolaeth yn effaith pechod, ac felly "gosodwyd i ddynion farw unwaith," &c. Y mae hon yn cyrhaedd pawb yn ddiwa- haniaeth, pa beth bynag fydd eu graddau a'u sefyllfa : dyma fydd ein diwedd bawb oll, fel nas gallwn, trwy ddim, ochelyd yr amgylchiad pwysig yma. Nodwn 1. Ar sicrwydd marwolaeth. Y mae yn perthyn yn fawr i ni i berswadio rin hunain o hono ; oblegid megys ag y mae yn gwbl sicr, y bydd y bywyd dyfodol heb ddiweddiad iddo; felly y mae mor sicr y bydd diwedd idd y bywyd presenol. Ni wnaeth Duw yr un gyfraith fwy annghyf- newidiol nà hon ; sef, marwolaeth. Yr ydym oll i farw, byddwn sicr o hyny. Cyfraith yw hon na elwir yn ol ; ymae yn rhaid i bawb oll farw, heb fodd i'w gochelyd. Atolwg, pa le ymaeAdda, a'r hir-hoedlog Methusalem ? Pa le y mae Abraham, Isaac, a Jacob ? Yr ateb yw. ymaentoll wedi marw, a myned i ffordd yr holl ddaear, a'u hamser hwy wedidar- fod ; a nyni a allwn ddywedyd am danynt, Hwy fuont unwaith, yr awr hon nid ydynt, a sicr yw y bydd yn rhaid i ninau farw ; " canys gan farw tydi a fyddi marw," y w y ddedfryd ddiiilw yn ol ; ac, " fel dyfr- oedd a dywelltir ar y ddaear, y rhai ni chesglir," 2 Sam. xiv. 14. Fe ddaw am- ser i'n cyfarfod pan ag y bydd y llygaid, pa rai sydd yn syllu ar bawb oddiamgylch, wedi colli eu Uewyrch }Tn hollol: y dwylaw sydd heddyw yn ein galluogi mor rymus, fydd cyn hir yn hollol wywedig a dinerth ; a'r tafod, er raor liylithr a chroy w y llef- araheddyw, fydd cyn hir wedi " tewi yn y tywod." Y corph sydd heddyw fel rhyw beiriant ardderchog, a phob olwyn ynddo yn gweithio yn ddiflino a rheolaidd, a welir yn ebrwydd wedi pallu gweithredu am byth, ac yn dychwe'.yd i'w ddaear, ac yno yn fwyd i ymlusgiaid ystafeìloedd angeu ; a'r rhai a dramwyant ac a aflon- yddant ein heddwch yn y cul fedd, a fydd heb gofio, neu wybod, fod y fath wrth- ddrychau wedi bod yn bodoli. Ystyriwn hyn fel y dycom ein calon i ddoethineb ; y peth a ddaeth i gyfarfod ereill, sef marw, a ddaw i'n cyfarfod ninau. Pe byddai marwolaetli yn beth damweiniol yn unig, ac nidyn sicr, eto hi a ddylai ein gwneuth-