Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW. Cyf. 2.] GORPHENHAF, 1837. Rhif. 7. AR DDATGUDDIAD. Traethawd 1.—AM ANNIGONOLRWYDD Y RHESWM DYNOL. Nid ydyw yn ran feehan o hunan- wybodaeth i ddyfod yn hysbys o'n breuol- aethau a'n diffygion, i wybod yn mha le y mae ein gwendid a'n cryfder yn gorwedd. Y mae llawer o bersonau yn cymeryd poen mawr i amlygu euhanwybodaeth, ihynodi eu hannghallineb, ac iddangos i olygiant cyífredinol y pethau hyny a ddylent gy- wilyddio am iddynt erioed fyned i'w nod- wedd. I'r dadleniad annghall a pheryglus hwn, y mae dynion yn aml yn cael eu gyru gan wagedd; chwennychiad am ganmoliaeth bydol, ac awyddfryd i ym- ddangos yn ddoeth goruwcli yr hyn sydd ysgrifenedig; ac oddiwrth hyn, anadna- byddus â mesur eu gallu eu hunain, yn ceisio dringo rhyw serthle gwaharddedig, yn meiddio camu dros y terfynau hyny am ba rai y dywedodd Duw, " Hyd ynia yr âi di, a dim yn mhellach," ac yri ymyraeth à'r " pethau dirgeledig " hyny, pa rai yn briodol a " beithynant i Dduw," o her- wydd efe yn unig a all eu deall hwynt,— y maent yn arnoethi i ddiystyriaeth cyf- iawn y dyrfa annhrugarog, eu balchder a'u diffyg o wybodaeth. Ansylw ymar- ferol i'r arwyddairdros ddrwsteml Apollo, yn Delphos, "Adnebydd dy hun,"—a'r hyn, dywedodd Thales, yr athronydd Mìl- esianaidd, yr hwn oedd gyfoesol â Josna, brenin Juda, ydoedd " y peth caletaf yn y byd,"—sydd wedi tywys llawer i ddychy- mygu yr hyn i fod yn au nad ydynt yn ei ddeall; a chan hyny, y mae gwrthwyneb- iadau wedi cael eu codi yn erbyn yr Ys- grythyrau, mal pe byddai yn analluadwy i Wneuthurydd nef a daear i erchi neu i ddatguddio unrhyw beth, natur a rheswm pa un nis gallant amgyffred. Duw sydd anfeidrol ddoeth, ac efe a ali amlygu Uawer o bethau yn mhell goruwch ein gallu ni i'w deali; ac, mal Arglwydd a Llywiawd- ydd goruchel y byd, efe a all oichymyn Hawer o bethau, dyfnder pa rai nis gallwn ei ddirnad. Trwy yr ymarferiad o'r rheswm dynol, nis gellir casglu ewyllys Duw oddiwrth ei | weithredoedd, i'r dyben o gyfarwyddiad | moesol. I dybied i'r gwrthwyneb, dwy sail a gymerir ag ydynt groes i brofiad ac Ysgrythyr. Y gyntaf, fod dyn yn naturiol feddylgar yn ei duedd; ac y gwnai ef erlyn gyda gwanc awchaidd yr holl ym- ofyniadau hyny a berthynant i ewyJlys Duw mewn pertliynas i'w greaduriaid. Yn awr, nid yw ymddygiad a nodwedd dyn yn ffafrio y dybiaeth hon. Gallu a hamdden s\dd eisiau; ac er cyn llawned y gall ysgrifeniadau yr athronyddion pa- ganaidd fod o ymrysoniadau mewn per- thynas i foesau, nid allai yrhanfwyafo ddynolryw, o herwydd annghymhwysder, eu ddealì. " Yr ỳch a edwym ei feddiann- ydd, a'r asyn breseb ei berchenog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall." Y mae hefyd yn eymeryd yn ganiataol fod dyn yn naturiol dueddol i wneyd yr ym- ofyniadau hyn, a'u herlyn i ymarferiad. Ond a yw hyn yn cael ei sylweddoli gan ffaith ? Doethion yr hen amserau oeddynt yn broffesedigyn ddysgawdwyr moesol;yr oedd ganddynt ysgolion a dysgyblion ; eto Origen ni wyddai ond am " un Phado a Polemon a wnaed erioed yn well trwy eu hathronyddiaeth." Nidoedd bywydau yr athronyddion hyn wedi eu diwygio trwy eu moesddysg. Ni allesid dysgwyl, gan hyny, y buasent yn oif'eiynol i ddiwygio ereill. Ar.ystyriol o'u haddysgiadau a'u cynrheithiau eu hunain, yr oeddynt gaeth- ion i'r penrbydd-did, y balchder, a'r trachwant mwyaf gwrthun; gan wirio haeriadau yr Ysgrythyr, " Yr hyn a aned o gnawd, sydd gnawd," Ioan iii. 6; " Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw yn ddaros- tyngedig i ddeddf Duw ; oblegid nis gall chwaith," Rbuf. viii. 7; " Y pen," yn cy- feirio atalluoedd achyneddfau rhesymgar dyn, " oll sydd glwyfus; a'r holl galon," yn cyfeirio aty nwydau, y sercbiadau, a'r holl galon, " yn llesg: o wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond ar- chollion, a chleisiau, a gweí'iau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac nì thynerwyd âg olew," Esay i. 5, 6. Rhai y sydd ag ydynt yn ymdrechu i osod Rheswm ar yr orsedd, a Datguddiad wrth ei draed, fel hyn yn gwrthdroi trefn mor wasanaethgar i'n tangnefedd a'n ded- wyddwch; ac yn tybio y gallant, trwy ymarferiad y gallu hwn, annibynol o ddat- guddiad, ddyfod i wybodaeth o fodoliaeth a pherffeithderau Dhw: a gelwid hyn, " crefydd naturiol;" y grefydd hòno agy gall dyn fFnrfio iddo ei hun trwy yr ymar-