Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW Cyf. 3.1 MAI, 1838, [RHIF. 29. DUWINYDDIAETH. DÜWDOD CRIST. (Parhâd tudal. 26.) YNawr, y mater a ddylem yityried yw, pa effaith a gafodd y cyfryw ymadroddion ar y grefyddluddewig; neu mewn geirìau ereill, pa fodd y deallai yr eglwysneu Iuddewon yr enwau a roddwy d ar y Messia, ac a arddelwyd gan Iesu o Nazareth. Fel y soniwyd o'r blaen, yr oedd y genedl mewn dysgwyliad hiraetíilawn am ryw berson oedd i gyflawni rhyw waith penodol mewn cysylltiad â'r eglwys, yn ol ihagfynegiad y prophwydi. Canfyddir hyn yn amlwg oddiwrth ymddyddan y wraig o Samaria â Christ. " M* a wn," ebai hi, " fod y Messias yn dyfod, yr hwn a elwir Crist: pan ddelo hwnw, efe a fynega i ni bob peth." Pan jr ymddangosodd y Crist yn y cnawd, neu pan y ganwyd Iesu o Nazareth, cydnabyddwyd ef gan angylion, a derbyn- iwyd gan ddynion, fel yr Un oedd ar ddy- fod. Cyhoeddwyd gan y cenadwr nefol fod Ceidwad pechadur wedi ei eni. (Luc ii. 8—16.) Derbyniwyd ef mewn llawn hyder gan y Duwiol Simeon, ac Anna y brophwydes, fel yr Iachawdwr addawedig. (Luc-ii. 25—38.) A munerodd y nod- weddiad iddo ei hun mewn modd amlwg a phenderfynol. (Ioaa iv. 26.) Ond y pwnc a ddaw dan ein hystyriaeth yn awr yw, y dull; y munerodd Crist y cyf- ryw nodweddiad, yn ngbyda'r modd y deallwyd hyny gan yr Iuddewon. Yn awr, ymddengys fod prif ran y nodweddiad yn gynwysedig yn yr ymhoniad a wna Crist ei fod. yn Fab Duw, a bod Ddw yn Dad iddo. Y mae yr ymadroddion hyn yn cael eu, rhoddi yn aml at Grist, ac y maè yntau yueu harddel yn y modd mwyaf priodol. Nid wyf yn hòni fod y geiriadau hyn ynddynt eu hunain ynprofi fod Crist yn Dduw. Nid dyma ein pwnc presenol; ond gadewch i niedrých pa fodd y deall- wyd hwynt gan yr Iuddewon y pryd hyny. Yn loan v. 17, mewn atebiad i'r cyhudd- iad a ddygai yr Iuddewon arGristmewn canîyniad i'r wyrth a wnaeth ar y Sab- bath; dywed, " Y maé fy Nhaéyngweithio hyd ynhyn, ac yr ydwyffinau yngweith- io." Yn awr, yr ymhoniad yw, Crist yn arddelwi Duw yn dad. Ond y cwestiwn yw, Pa fodd y deallid y geiriad gan y rhai oeddent yn wyddfodol ar yr amser ? Atebir eÌE cwestiwn gan yr efengylwr yn yr adnod ganlynol. "Am hyn," medd efe, " gan hyny yr Iuddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn unig iddo dori y Sabbath, ond hefyd iddo ddy- wedyd fod Duw yn Dad iddo. gan ei umtuthur ei hvn yn gystal a Duw. Pa un ai cywir ai annghywiroeddy caagliad yma o eiddo yr Iuddewon ar ymhoniad Crist, nid yw o bwys i benderfynu yn awr; ond sicrhâ yr efengyiwr mai hyn ydoedd. Cystal aDuw a arwydda cydffurfâ Duw. goyyfuwch â Duw, &c. Mai hyn yw ei ystyr yn y Gymraeg, sydd yn amlwg i bawb sydd yn deall yr iaith ; au y mae ein darlleniad ni yn gyfieithiad cywir o'r tes- tuo gwreiddiol, fel y gellir profi oddiwrth luaws o leoedd eteill yn y Testaroent New- ydd.* Arweinir ni i'r golygiad yn hollol oddi- wrth amgylchiadau ereill yn mywyd Crist, mai hyn oedd meddwl yr Iuddewon ar yr achlysur. Yn Ioan x. 30, dywed Crist wrth yr Iuddewon ymgynulledig o'i amgylch, " Myfi a'r Tad, un ydym." Ar yr acnlýs- ur, cynygent ei labyddio âcheryg. Wedi iddo yntau ofyn am ba weithred dda yr oeddent yn eì labyddio, atebent, " Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, am dy fod di, a thì yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw." Codwyd yr un pwnc i ddadl pan yroedd fe! carcharor oflaeny Sanhedrim. Ar ol ceisio ei brofi yn euog mewn llawer fibrdä, • Er anghraltìft.—Yr un gulr gwreiddiol (»'*©íj a ddefr.yddir vn yr adnodau hyn am y geiriau a nodir raewn Uythyrenau ItalaiUd. " A thi a'ú gwnaethost hwvrit yn gysí«/:i minao," Mat. xí. 13. " Fel y deibyniont y tyffeMb," Luc Vi. 34. •« Ni thybiodd yn drais foí yù ogyftmch 4 Duw," Phil. ii. 6.