Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR A T H A W CrF. 3.] MEHEFIN, 1838. :Rhif. 30. DÜWINYDDIAETH. TREM AR DDYN Creadur arddercliog ydoedd dyn pan ddaeth o dan law ei Greawdwr,—arglwydd a phen ar y byd yma isod. Gw naed ef yn ddernyn cyflawn berffaith o ran cyneddf- au ei gorph a'i enaid; ynddo y cafwyd' mewn ystyr briodol, ddyben y cylch byd- ysawl; crynodeb y grè'edigaeth ydoedd, yn cynwys corph 0 bridd y ddaear fel yr anifeiliaid, ac ysbryd anfarwol fel yr ang- elion ; cadwyn dorch yn ngradd fesurfa y grè'edigaeth, ag sydd yn cylymu trigoüon nefoedd a daear, creaduriaid afresymol a rhesymolâ'u gilydd. Heb y dyn, gwag fuasai y byd o'i ddodrefn a'i drigolion. Pa ddyfais, paallu, pa ddaioni hynag a am- lygwyd gan y Creawdwr mawr, nid oedd dim na neb cyn crëedigaetb dyn yn gallu dirnad, deall, rhyfeddu, caru, mwynhau, acei fawrhau ef. Er gwisgo y ddaear â harddwch, ac er i'r mynyddoedd a'r dy • ffrynoedd ddadblygu darluniad prydferth, a golygfeydd ardderchog, i'r nefoedd ledu ei chauadlen fawreddog, yr haulyn mawr- edd ei nerth godi, gan ymlawenhau fel cawr i redeg gyrfa, ac i'r lleuad a'r ser yn fawreddogi amlygu gogoniant adoethineb eu Hawdwr ; eto nid oedd llygad i edrych, na chalon i adystyried, megys tỳ ardderch- og a phreswylfod barddwych, ac wedi ei lenwi â dodrefn, ond heb yr un deiliad idd ei breswyliaw : creaduriaid afresymol ydoedd yr unig rai i fwynhau yr oll, a'r mwynbâd hwnw wedi ei gyfyngu i cbwantau anifeitaidd. Ond dyn a wahan- wyd oddi wrth bob creadur aralltrwy gael ei wneuthur yn fód rhesymol: yr oedd trwy fywiawgrwydd ei feddwl, yn treiddio yn drwyadl i naturiaethau a cbyneddfau y creaduriaid, fel y gallodd ar unwaith roi enwau addas yn ol eu naturiaethan iddynt oll: gallai weled medrusrwydd, doethineb, a gogoniant y Creawdwr yn ngwaith ei ddwylaw ; a tbrwy natur y gwaith, gallai ddeall.gwerthfawrogi, ac addoli yGwneuth- urwr ; gallai ei feddyliau ymddyrchafu at Dduw, ac arno ymeangu i dragwyddoldeb. Dryeh ydoedd y greedigaeth iddo, trwy j ba un y gwelai bob moment, yn mhob j man, acyn mhob dull, ardderchaw grwydd, mawredd, a rhagoroldeb y Jehofa; ato y dyrchafai ei serchiadau, ac ei fawl yn felusach nag arogl y bore, ac nid an- nghydgor ydoedd âg uwch a pherffeithiach foliant y nefoedd. Efe ydoedd offeiriad y byd mawr yma, yn offrymu, fore a hwyr, aberth o fawl a diolchgarwch dros yr holl grè'edigaeth isod. Arglwydd y byd yd- oedd, a'r byd hwnw yn baradwys o dda- ioni ac hyfrydwch. Ei drigfa ydoedd hyf- rydoJ, ac unig hyfrydol. Llawnder, di- gonedd, esmwythyd, ac hyfrydwch, pêrar- ogledd, harddwch, a llawenydd, ydoedd yn tarddu yn naturiol odd ei amgylch, ac yn ei ddylyn pa le bynag yr âi. Nid gor- thrymydd na tbrawsfeddiannydd ydoedd, ond y brenin cyfiawn a thirion. Ymos- tyngiad y creaduriaid ydoedd iddo yn ew- yllysgar, ac yn achosi dim ond trefn,hedd- wch, a hapusrwydd. Yn meddu y cy- mhwysderau a'r manteision yma.gosodwyd effel y dywedwyd, yn mharadwys, cy- ffelybrwydd o'r nefoedd ei hunan, ac wedi ei amgylchu â phob peth oedd dda yn fwyd, a hyfryd i'r golwg, a pheraidd i'r arogl, mewn gardd hyfryd, i fwynhau ei ffrwythau, idd ei ilafurio ac ei chadw, mewn awyr wediei goleuo â bywyd, yn nghanol dyfroedd â bywyd ynddynt yn tarddu, yn nghanol ffrwythau ac ynddynt fywyd yn blodeuo ac addfedu, yn amgylch- edig â harddwch ac ardderchawgrwydd oesol ;|heddwch o mewn, yn ddiogel oddi aìlan, ac yn ymwybyddus o anfarwoldeb. Nid oedd i lafurio ond cymaint a'i gwnai yn ddefnyddiol a dedwydd, adystyried rhyfeddodauy grè'edigaeth, er mantais i addoli ei Hawdwr mawreddog, fel ei brif a'i gyson ddyledswydd a'i waith. Delw y Duw anweledig ydoedd, wedi ei greu i fod fel efe mewn gwybodaeth, cyfiawnder, a gwir santeiddrwydd, ac i lywodraethu dros weithredoedd ei ddwylaw. Yn y cyflwr yma, yn mhell o afael marwolaeth, afiechyd, llygredigaeth, poen.a gofid, fe'i haddaswyd i welliant diddiwedd, ac ei feddwl, fel yr eiddo angylion, ydoedd ya