Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR A T H R A W. Cyf. 8.J MEDI, 1838. [Rhií 33. DUWINYDDIAETH. —♦------ PRAWF O ANFARWOLDEB YR ENAID, O EGWYDDORION NATUR. Syb,—Fe allai y cymerai i fyny ormod o amser yn bresenawl i ymofyn yn faowl yr amryw resymau am anfarwoldeb yr enaid, y rhai a ellir eu cael yn ysgrifen- iadau awduron paganaidd, ac ni all&i hwyrach ateb y dyben o'n hymofyniad presenawl: oanys y dybiaeth naturiol yn yr achos hwn nid yw gymaint i'w gyfrif i synwyroldeb yr ysgrifenydd hwn neu y lla.ll, ag ydyw i synwyr cyffredin ac amgyffred dynolryw. Hyn a phob tyb- iaethau ereill ag y mae ganddynt unrhyw hawl i gael eu tarddiad o natnr, a addef- ant eu hawdurdod, nid i ymresymiadau neillduedig unrhyw ysgol, eithr i ryw syn- wyr cyffredin agwybodaeth, yr hon a ellir gael yn mhob dyn ; neu i ryw arwiredd cyffredin a diwrthddadl o reswm. Gwrth- gredwyr yr oes hon a gamdreuliasant eu hamser a'u llafur i ddynoethi y prawf n«ituriol o anfarwoldeb, trwy gyferbynu gwahanol dybiadau yr hen athronyddion, a dangos eu hansicrwydd a'uhannghyson- deb; oblegid os yw Plato, Aristotle, a Tully, yn annghyson y naill â'r llall, neu â hwy eu hunain, yn eu rhesymiadau neill- duedig ar y pwnc hwn, pa beth yw hyn i'r prawf a rydd natur, yr hwn nid yw dybiaeth unigol Plato, nac unrhyw philo- sophydd arall, eithr unol lais holl ddynol- ryw ? Hyn oedd tybiaeth gyffredin y byd, yn tarddu o ryw synwyr cyffredin, neu egwyddor o reswm, cyn i unrhyw philoso- phydd gymaint a meddwl am reswm gwa- hanol i'r prawf o hono. Ac oni buasai i synwyr cyffredin natur addysgu ygwir- ionedd hwn iddynt, yr wyf yn hyderusna buasai y rhesymau phiiosophyddaidd er- ioed wedi meddwl am dano. Mai y grediniaeth a'r darbwylliad cy- ffredin oedd sail yr ymchwiliadau athron- yddawl, sydd eglur oe ystyriwn fod yr holl hen ysgrifenwyr ar y pwnc hwn yn apelio at dybiaeth a chydsyniad cyffredin dynol- ry w, fel un rheswm mawr am wirionedd I yr athrawiaeth, yr fhyn sydd yncadarn brofi o leìaf fod y byd yn meddu y gred- iflaeth hon yn hir cyn ea bod hwy^yn ac ysgrifenwyr, na'u rhesymau philosophydd- aidd wedi meddwl am danynt. Os oedd y dybiaeth yn gyffredin, hyn yn unig sydd brawf digonawl na chyfododd oddi wrth ymresymiadau neillduol; canys ni chyfododd, ac ni all tybiaeth gyffredin byth gyfodi felly: a'r rheswm sydd eglur; 0 herwydd tybiaeth gyffredin yw yr hyn sydd dderbyniol gan ddynion yn gyffred- in, yr hon ni bu erioed, ac nis gall fod yn alluog i wrando ar resymau neillduol. Yn awr, y prawf naturiol hwn, yn wahaniaeth- 01 oddi wrth ddyryswch philosophyddaidd, yw y peth yr ydym yn ymofyn am dano, a'r hwn a saif yn gadarn, pabeth bynag a ddaw o dybiau dynion dysgedig: canys natur a fydd ar yr iawn yn rhoddi rhyb- ydd o fywyd dyfodawl, pa foddbynagy cydsynio dynion, pan ddelont i sicrhau y natur a'r achos o hono; gwneuthurhyn yw nôd ac amcan philosophyddiaeth. Eithr y cydsyniad cyffredin yw llais a deddf natur; canys yr hyn y cyduna pawb ynddo sydd raid iddo gael ei darddiad o rywbeth cyfrredin ibawb ; a pha beth sydd felly ? onid synwyr a greddf natur ? Pan ddel dynion at drefniad yn y meddwl (spe- culation),y maent yn amrywio cymaint yn nhroad a thywalltiad eu meddyliau, ag y mae eu hwynebpryd a llinellau (linea- ments) eu hwynebau; ac o ganlyniad ni all ymresymiadau meddylgar byth gy- nyrchu darbwylliad cyffredin. Y grediniaeth a'r darbwylliad hwn o'r sicrwydd • fywyd dyfodol sydd yn cy- fodi ò'r synwyr cyffredin sydd gan ddyn- ion o'r gwahaniaeth rhwng da a drwg, ac o'r cyfrifoldeb sydd ar ddynion am yr hyn a wnelont yn y byd hwn; yr hwn gyfrif nid yw yn cael ei gymeryd yn y byd hwn, fel y mae y radd leiaf o sylw yn galluogi dynion i weled; y maent yn casglu, (neu yn hytrach yn syrthio trwy nerth rheswm a chydwybod,) fod cyfrif i gael ei roddi rhagllaw. Y mae y fath egwyddor du- fewnol (internal) a hon, yr hon sydd yn tarddu i fyny yn ac o galon pob dyn, yn riieddu mwy o bwy« ynddi nà holl resym-