Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR 1 I 11 II A W . Cyf. iv.] MAWRTH, 1839. [Rhif. XXXIX. BUCHEDDIAETH. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. ROBERT STEPHENS M'ALL, LL.D., GWEINIDOG CAPEL HS0L MOSLEY, MANCHESTER. Hybarch Olygydd,—O dan ddylanwad y grediniaeth, mai eich dyben a'ch amcan ciodwiw yn eich holl yradrechiadau, ydyw trosglwyddo a lledaenu gwybodaetb fudd- iol yn mhlith eich cyd-genedl; anturiais anfon atoch y bywgraffiad hwn, pa un a gy- merwyd allan gan mwyaf o waith y Dr. Raffles. Ac er mai nid Cymro ydy w gwrth- ddrych y eofiant; eto y mae yn amlwg ei fod yn deilwng o sylw, o herwydd y mae yn ddiau ei fod yn gristion cywir, yn ysgolhaig bron heb ei fath, ac yn un o enwogion ÿr oes yn mhob ystyr. Gobeithiaf y caniatewch iddo ymddangos yn rhyw gongl o'ch Athraẁ buddfawr ; ac y derbynia eich lluosog feibion gymaint o fudd a hyfrydwch wrth ei ádarlleo, ag a gefais i wrth ei ddethol a'i gyfieitbu. IORWERTH IDLOES. Ganwyd y Parch. Robert Stephens M'All, yn PJymouth, Awst 4ydd, 1792. Efe ydoedd mab hynaf y Parch. Robert M'Aìl a Jane Lea, o St. Ives, yn Nghern- y w. Ei fam, at ba un yr oedd bob amser yn dangos y parch a'r cariad gwresocaf, a "fu farw yn y fìwyddyn 1824 ; ond y mae ei dad anrhydeddus yn fyw eto i alaru ei golled. Yn fuan ar ol genedigaeth Robert. sy- mudodd ei dad i Gaerloyw, o herwydd cael ei benodi i wasanaethu y capel oedd yn y dref hòno, yn perthyn i gyfundeb y ddiweddarlarlles o Huntingdon. Arosodd Mr. M'All yno amryw flynyddau, ac yno y derbyniodd Robert egwyddorion cyntaf dysg ; ac o herwydd hyny, yr oedd yr ad- gofion o'r lle hwn, bob amser yn dwyn hyfrydwch a budd i'w feddwl. Pan yn ymweled â'r dref yn 1830, ceisiodd allan gyda'r awyddfryd mwyaf, y person hyny a gafodd y fraint a'r anrhydedd o gyfranu elfenau cyntaf gwybodaeth iddo. Oddi wrth y persoD hwnw y derbyniodd lawer o arwyddion o diriondeb; a mynych yr ad- roddai gyda hyfrydwch,amryw ddygwydd- iadau bychain cysylltedg â'r rhan foreol hon o'i oes. Symudiad nesaf ei dad oedd i St. Ires, yn Nghernyw ; a darfu i'r dref fechan hon a'i chymydagaeth amgylchynawj, ddyfod yn eisteddle ei adgofion anwylaf; o her- wydd yma, pan y cai ychydig seibiant oddi wrth ei efrydion, byddaiyn mwynhäu cyd- gyfeillach â'i deulu, ac ystyriai y lle hwn yn mhob y«tyr yn gartref iddo. Yn y cyf- amser, yr oedd ei addysg yn cael ei ddwyn yn y blaen yn Penzance, Falmouth, a Red- ruth, yn olynol. Fel deiliad ysgol, digon ydyw dywedyd iddo yn fore arddangos arwyddion o athrylith neillduol, ac yn mhob ysgol y bu, yr oedd yn cael ei hy- nodi gan ei syched cryf am wybodaeth, y rhwyddineb neillduol gyda pha un y byddai yn ei chyrhaeddyd, yn nghyda'r cynydd olynol a fyddai yn dylyn eiym- drechiadau. Yr oedd bob amser yn mhell o flaen ei gymdeithion ; a mynych iawn y byddent yn ceisio ganddo eu cynorthwyo. Yn ei flynyddoedd boreaf, yr ydoedd ynddo ogwydd cryf at bethau crefyddol. Yr ydoedd hyn yn cael ei amlygu yn ei arferion personol, ac hefyd yn newisiad ei gymdeithion; ac y mae yn amlwg fod ei feddyliau y pryd hya wedi eu cyfeirío at y weinidogaeth ; a chyn belled ag yr oedd ei efrydion o dan ei arweiniad ef ei hun, yr oeddynt oll yn dwyn perthynas i radd- au mwy neu lai â'r gwrthddrych hwn. Gadawodd Redruth pan yn bedairarddeg oed, a gosodwyd ef o dan ofal y Parch. Mr. Small, athraw hybarch Athrofa Ax- minster. Arosodd yno o gylch denddeg mis, ac yn yr oedran ieuanc o bymtheng mlwydd, derbyniwyd ef yn aelod o eglwys ei dad, a symudwyd ef yn ddioed i Har- wich, lle y bu yn myfyrio gyda'r Parch. Mr. Hordle; ac ar ol hyny i Athrofa Hox- ton, yn y flwyddyn 1808. O herwydd rhyw bethau nad ydynt yn y radd leiaf yn achos o annghlod a gwar- adwydd iddo, ni bu *i arosiad yn y itfydl-