Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATIIR4 W« Cyf. iv.] MAI, 1839. [Rhif. xli. TRAETHODAÜ. ARAETH AR BERYGLON TREFYDD MAWRION, A draddodwyd yn Nghymdeithas Fy anwyl gydieuenctid,—I gyflawni íy addewid o wneyd sylwadau ar " Beryglon trefydd mawrion," traddodaf i chwi yn awr fy sylwadau ar y peryglon hyny, er fy mod yn hollol analluog i'ch boddloni ar y pen hwn ; gan na fûm fawr erioed mewn trefydd mawrion, nis gallaf ddy- wedyd fel y dymunwyf, pa rai yw y per- yglon sydd ynddynt; ond crybwyllaf yn fÿr am y peryglon mwyaf cyhoeddus a'r temtasiynau mwyaf hudoliaethus a'r a wn i am danynt. Mae yn ddiammheu fod mewn trefydd mawrion fwy o faglau a rhwystrau yn amgylchynu dynion, a mwy o bechodau yn cael eu cyflawni, nag mewn un lle arall. Cawn hanes yn y Beibl fod pechodau trigolion trefydd mawrion wedi dwyn barn a dinystr Duw ar eu penau, nes anrheithio eudinasoedr1, a gwneuthur y sylfaenau, yn nghyda'r gwledydd oddi amgylch, yn ddiffaethwch dychrynllyd. Dywedir i ni gan y pro- phwyd Nahum, fod y ddinas fawr hòno, Ninefa, yn ngbyda lluoedd o'i thrigolion, gwedi ei llwyr ddinystrio o herwyddfBaidd bechodau y bobl. Cawn hanes hefyd am ardderchogrwydd y ddinas hòno, Babìlon, yr hon a gyfenwyd gan y prophwyd Esay, " Prydferthwch y teyrnasoedd," " gogon- iant a godidogrwydd y Caldeaid," " y dref aur," a " gogoniant yr holl ddaear ;" oûd er maint ei phrydferthwch, ei gor- wychder, ai gogoniant, cawn hanes yn mhellacb fod yr Arglwydd wedi tywallt ei ddigofaint ar ei thrigolion, a gwneuthur y ddinas yn garnedd o ddinystr, a hyny yn unig o herwydd drygioni ei llywodr- aethwyr a'i phobl. "Palemae Babilon ? Ei muriau'n awr, Nis harddent lan y ddofn Euphrates tawr; Llais y ddylluan scrch aderyn bwn, Neu nâd y blaidi sydd yno'n unig swn. Ymdeithiwr holai 'i geidwad gyda braw, Ei lygad gwlyb yn trosi ymaa thrtw, Pa le gwnai balchder byd'gyfodi ei phen ? Brenines gwledydd mwyat is y nen, Yn gyffelyb cawn hanes am yr Aipbt, yr hon oedd mae yn debyg yn un o'r gwledydd cyntaf a mwyaf enwog a gry- bwyliir mewn hanesyddiaeth cyffredin neu santaidd, ac o herwydd drygioniei y Gwŷr leuainc, yn Ninbych. thrigolion y cyhoeddodd Duw y geiriau ofnadwy hyny wrth ei phen, " Y bydd yr Aipht yn deyrnas ddirmygedig, y bydd hi yn fwyaf dirmygus o'r teyrnasoedd, ac na chaiff hi ymddyrchafu oddi ar y cenedl- oedd: canys lleihàf hwynt,rhag arglwydd- iaethu ar y Cenedloedd Esec. xxix. 15; xxx. 31. ündheb ymhelaethu yn y ffordd yma, er y gallesid enwi amrywiol ereill o siamplau o ddystrywiad trefydd mawrion o herwydd pechodau eu trigolion, ond rhag eich blino â meithder, prysuraf at fy mat- er, sef " Peryglon trefydd mawrion, " ac oddi wrth hyn, galwaf eich sylw ar y ddau beth canlynol :■— 1. Y peryglon y mae gwŷr ieuainc yn agored iddynt mewn trefydd mawrion. 2. Y llwybr trwy ba un y mae gochel y peryglon; ond yn 1. Y peryglon y mae çwŷr ieuainc yn agored iddynt mewn trefi mawrio n. Y mae dau fath o beryglon a berthyn- ant i drefydd mawrion, sef^ yn gyntaf, peryglon ansoddol; ac, yn ail, peryglon dygwyddiadol. Yn gyntaf, peryglon ansoddol. Dan y pen hwn gallwn ystyried mor anffafriol yw trefydd mawrion i iecbyd gwỳr ieu- ainc a elont iddynt o'r wlad ; ac nid yw yn un o'r pethau mwyaf dibwys, am ei fod yn anhawdd i'w ochelyd, yn enwedig i'r rhai a ddylynant orchwyiion bywyd o dan dò. Pa sawl bachgen ieuanc gwrid- goch a welwyd yn dychwelyd o brifdreti Lloegr wedi colli ei holl harddwch corph- orol? Ei wedd wedi gwelwi, ei nerth wedi pallu, ei aelodau yn egwan, ac angeu yn tremio yn ei wynebpryd, a'i afiechyd í'w briodoli yn benaf i ddrwg ansawdd ei drigfan. Ond rhag myned yn faith, prysuraf at yr ail fater. Yn ail, peryglon dygwyddiadol. laf, Mae yn dygwydd yn amì fod mewn tref- ydd mawrion iadron cyfrwys a chreulon, a thrwy fawr ofal y rhai hyn yr ymgedwn rhag colli ein dillad oddi am danom a'n hanadlo'nffroenau. Y mae yr epil feli- di gedig hon yn barod bob amser i ddryga a niweidio dynioa, ac yn wir dyaa yw