Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR A T H R A W. Cy'f. iv.] MEDI, 1839. [Rhif. xlv. DUWINYDDIAETH. V DBYDEDD WOBR-DB AETU. YN CYNWYS TRAETHAWD AR Y DDtLEDSWYDD O GANÜ MAWL I'R ARGLWYDD- GAN PHILO-KALOS. Mae canu mawl i'r ATglwydd yn ordin- hâd ddwyfol, ac o osodiad dwyfol. Mae yn ddyledswydd orphwysedig ar bawb ganu mawl i'r Arglwydd. Mae amryw bethau yn pföfi hyn. 1. Mae ansawdd y grè'edigaeth oll yn profi hyn. Mae Duw wedi trefnu i'w holl weithredoedd ddwyn iddo ef, mewn modd uniongyrchol neu adlewyrchol, deyrnged o glod. Dyn ydyw liadmerydd y grëedig- aeth ddilafar at Dduw. Mae dyn wedi ei osod yn nghanol y grëedigaeth weledig, i fod yn dafod iddi, ac i lefaru drosti wrth Dduw. Efe yw yr nnig greadur a gy- nysgaethwyd â chymbwysderau i ddatgan gogoniant y Creawdwr. Pan eilw y Salm- ydd mor fynych ar weithredoedd yr Ar- glwydd i'w foli, rr un peth ydyw a phe galwai ar ddyn i ystyried ei weithredoedd ef, fel y byddai i hyny ei arwain i'w fol- iannu. Felly gellir dywedyd " fod y nef- oedd yn datgan gogoniant Duw" ar eu datguddiad cyntaf; ond hyn oedd ogon- iant aamheríFaith a gwallus. Ni allasai yr arwydd fod o un ajrwyddocâd yma ar y llawr, pannad oedd neb i'w amgyffred na gwneyd sylw o'r gwaha»ol bethau. Felly dyn a fFurfiwyd i ddiwallu y diffyg hwn. Hefyd,y maent yn cyfarch rheswm a deallt- wriaeth dyn yn y íath fodd ag sydd duedd- ol i'w ddwyn ef i fawrhäu a chlodfori eu Gwneuthurwr ; megys ag y dywedir am ryw waith celfyddwych ei fod yn datgan cywreinrwydd ei saernîydd. Ond nid yw yr haul na'r ser ynddynt eu hunain yn feddiannol ar deimladau na nwydaw. Pan y mae y Salmydd drachefn yn gwysio am- rywioì ranau o'r grëedigaeth, "tân a chen- Husg" (Salm cxlviii. 8, 9, 10, &c), mae yn amlwg nad ydyw yr amrywiol wrth- ddrychau hyn yn meddiannu addasrwydd ynddynt eu hunain i foli Duw. Os ydyw y Creawdwr, gan hyny, i gael mawl a gogoniant mynegol oddi wrth ei weithred- oedd, rhaid eu cael trwy gyfryngaeth dyn. Dyn à gynysgaethwyd â galluoedd i 2 C chwilio allan, ac i gydnabod y perfFeith- iadau annherfynol: rhoddwyd ef yn ar- glwydd ar y deml yma o'r byd iselaf, a gosodwyd ef fel gweinyŵdwr hòllanian.ac i dderchafu i fyny ei fawl dros y grëedig- aeth ddilafar ac annheimladwy. Os oes un iot o glodforedd o'r ddaear -faith i gyd i ddeilliaw i'r hwn a'i gwnaeth, rhaid iddo esgyn yn gyfan a hollol o fonwesau dynol. Nid oes allor arall oddi ar yr hon y gall y cyfryw arogldarth ymddyrchafu. Onid yw, ynte, mor amlwg a haul ganol dydd fod yn ddyledswydd ar ddyn ogon- eddu a moliannu Duw, Ac os bydd dyn (tafod y grè'edigaeth) yn fud, mae'mawl a gogoniant mynegol Duw yn marw ynddo. Y mae pob un, gan hyny, yr hwn sydd yn fud yn yr addoliad, yn tynu coron gogon- iant mynegol Duw oddi ar ei ben; ac yn dangos mewn modd arbenig nad yw yn ewyllysie gogoneddu a moliannu Duw. 2. Y mae galluoedd naturiol pob 3yn yn profì hyn. Dylai pob creadur a luniodd Duw ateb dyben ei grëedigaeth. Dyben penaf dynyw gogonedduDuw [Esay xliii. 7—21.] Un ffordd arbenig i ogoneddu Duw, ydyw canu mawl i'w enw santaidd a gogoneddus ef: " Yr hwn a abertho foliant a'm gogonedda i." Am hj'ny nid oes ond mudandod yn rhydd oddi wrth y ddyled- swydd o ganu mawl i Dduw. Y mae y galluoedd anianol a roddes Duw i ddyn i'w foliannu, yn annhraethol twy cywrain nag oedd llestri euraidd y deml. Cysegr- wyd hwynt i wasanaeth Duw yn y demf. Pa faint mwy ynte y dylai pob perchen llais ei ddefnyddio i foliannu yr Ar- glwydd ? 3. Y mae y gogoneddus briodoliaethau, a phob ymddygiad o'i eiddo, ya profi fod yn ddyledswydd ar bawb foliannu ei enw santaidd ef. Y mae yn hawdd gan ddyn- olryw ganmawl neu foliannu unrhyw beth a ymddangoso yn rhagorol yn eu cyd- farwolion ; gan eu bod yn gwneuthur hyn pa faint mwy dŷledswydd ydyw arnŷnt