Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR A T H R A W. Cyf. iv.] HYDREF, 1839. [Rhif. xlvi. DUWINYDDIAETH. Y PEDWAHÎDD WOBR-DHAETH: TN OŸHWYS TRAETHAWD AR Y DDYLEDSWYDD O GANU MAWL I'R ARGLWYDD. GAN GULIELIMÜS. Hybarch Olygydd,—Gan y golygir, nid heb achos, fod esgeulusdra ac anDhrefn mawr yn ein plith fel cenedl yn gyffredinol, yn nygiad yr ordinhâd oruchel o ganu mawl i Dduw yn ralaen, 'nid fol ffrwyth ac effaith anwybodaeth ac annysgeidiaeth mewn cerddoriaeth fei celfyddyd, eithr yn darddiant neu gynyrch o anwybodaeth ac anystyriaeth o hyn, fel y mae yn ddyled- swyddo ordinhâdagosodiadyr Arglwydd; er mwyn gweithredu ychydig tuag at symod yr achosion o'r esgeulusdra a'r an- nhrefn y cwynir o'u plegid, ceisiaf sylwi yn I. Fod canu mawl i Dduw yn ordinhâd o drefniad a gosodiad yr Arglwydd, ac felly yn ddyledswydd neillduol ar ddyn. 1. Mae bod yr Arglwydd wedi cynysg- aethu dyn â dawn canu, yn brawf eglur ei fod wedi ordeinio bod i'r dawn hwn, fel pob peth arall a wnaeth, gael ei ddefnydd- io er ei ogoniant ef. Diar. xvi. 14. Ésay xliii. 7. 2. Mae y duedd reddfol sydd mewn dyn wrth natur i ganu mawl i'r hyn a ys- tyria ef fel duw iddo, yn profì yn amlwg bod canu mawl i'r gwir Dduw yn ordin- hâd o'i osodiad ef ej hun. Fel y cyfar- wyddir dynion gan oleuni natur i alw ar Dduw pan mewn caledi a chyfyngderau (Jonah i.5,6); felly trwy yr unrhyw oleuni, cyfarwyddir hwynt i ganu ei fawl anr ei aml drugareddau, a'i luosog waredigaethau iddynto'u cyfyngderau. Salm cvi.l7—23. 3. Mae bod canu mawl wedi bod, yn bod, ac i fod yn arferiad fel rhan o addol- iad y gwir Dduw, ac yn cael ei annog gan yr addolwyr mwyaf ysbrydol, yn brawf eglurei fod o ordeÌDÌad yr Arglwydd. Can- odd Moses, Miriam, a holl feibion Israel yn beraidd ar làn y Môr Coch, ar ol y waredigaeth ryfedd a gawsant ar Pharao a'i lu. Exod. xv. Canodd Debora a Barac yn ardderchog am y waredigaeth a gaw- »ant ar eu gotthrymwyr. Barn. v. Yr oedd 2 F canu mawl yn rhan o'r addoliad dwyfol yn nyddiau Dafydd, yr hwn a ddygodd' y rban hon o'r addoliad i well trefn aag y buasai, tebygol, cyn ei ddyddiau ef. Ac y mae siampl yr Arglwydd Iesu yn canu gyda'i ddysgyblion yn brawf sicr fod canu mawl i Dduw yn ordinhâd o'i osod- iad ef ei hun, ac felly yn ddyledswydd arbenig ar bob dyn. Yr oedd canu mawl hefyd yn yr oes apostolaidd yn cael ei ar- fer fel rhan o'r addoliad dwyfol. Gwaith Paul a Silas yn y carchar, yn nghyda gor- chymynion ac annogaethau yr apostolion i'r eglwysi i hyn, a'i prawf. Ac y mae yn amlwg y byddai eglwys Corinth yn canu Salmau, yn rhoddi sail gref i feddwl y byddai yr eglwysi ereill yn gwneuthur yr un modd. Act. xvi. 24. 1 Cor. xiv. 26. Eph. v. 19. lago v. 13. 4. Mae bod yr Arglwydd yn gorchy- myn canu mawl yn ei air, yn brawf hollol anwrthwynebol fod hyny yn ddyledswydd neillduol ar bob dyn,—" Cenwcb i'r Ar- glwydd ganiad newydd, a'i foliant yn nghynulleidfa y saint." Salm cxlix. 1. 5. Mae yr amlygiadau lluosog a rodd- odd yr Arglwydd o'i foddlonrwydd i'w bobl yn nghyflawniad y ddyledswydd or- uchel o ganu mawl iddo, yn profi yn eglur ei bod o'i osodiad ef ei hun. 2 Cron. v. 11 —'14. a xx. 1—30. Yr oedd yn hyn oll arwyddion neillduol o foddlonrwydd yr Arglwydd i'w weision, a'i gymeradwyaeth. o'u gwaith yn ymarfer â'i ordinhadau ; ac y mae beunydd yn dwyn tystiolaeth idd eu holl ordinhadau, yn yr iawn arferiad o hooynt : " Y Brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd;" ac un o rodíeydd y Brenin ydyw yr ordinhâdoganumawl. Weithian, os ystyriwn y profion uchod, canfyddwn yn amlwg ddwyfoldeb yr or- dinhâd, a'r ddyledswydd o ganu mawl i Dduw. Buasai un o honynt yn ddigon i brofi hyn ; ond yn amlder tystion y mae grym. Fel y mae nnwybodaeth ac anys-