Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, MAI, 194%. BufcDmpîrtJiaetl), GOBAITH A DYSGWYLIAD Y CRISTION YN CAEL EI GYFEIRIO AT AIL DDYFODIAD CRIST, A'R ADGYFODIAD CYFFREDINOL. PREGETH A DRADDODWYD 8AN Y DIWEDDAR BARCH. JOHN STEWART, D. D. * PHIL. III. 20, 21, "Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o'r lle hefyd yr ydym yn dysgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist," &c. Y geiriau hyn a ellir yn fwy cyflawn a chywir eu cyfieithu, "Ein dinas ni sydd yn y nefoedd; o'r lle hefyd yr ydym yn dysgwyl," &c. Yn y geiriau hyn cawn dri pheth ag sydd yn honni ein sylw neillduol, y rhai sydd yn cyfansoddi gobaith a dysgwyliad y Cristion. Yn gyntaf, Dysgwyliad am ein Harglwydd bendigedig i ddyfod dra- chefn o'r nefoedd yn y dydd olaf. Yn ail, Dysgwyliad o'r newidiad hwnw ar ein cyrff marwol a methiannus, yr hyn a effeithiola efe yramserhwnw, "Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf a'i gorff gogoneddus ef." Yn drydydd, Y gallu anfeidrol hwnw, trwy ba un y sylweddola efe y gobaith a'r dysgwyliad hwnw: fe fydd, "yn ol y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, i'e, ddarostwng pob peth iddo eihun." Ac at y tair rhan yma o'r testyn cania- tewch im' am ychydig gyfeirio eich sylw, gan gofio mai nid trwy nerth na gallu, ond trwy Ysbryd Duw, y mae y gair yn effeith- iol i gadwedigaeth yr enaid. Sylwn, I. Yr ydym yn dysgwyl ein Harglwydd bendigedig i ddyfod drachefn o'r nefoedd yn y dydd olaf. Ac yr ydym yn ymhy- frydu yn fawr i fyw yn y byd hwn, "gan ddysgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Grist." Y mae hyn yn un o erthyglau gogoneddus a phwysig ein crefydd, yr hon a wnaem yn dda ei chadw yn wastadol yn y meddwl, a'i sylweddoli â'r ffydd hòno, yr hon yw sail y pethau a obeithir, a sicrwydd y pethau nad ydys yn eu gweled. Y mae Crist, ein Harglwydd, wedi ymddangos yn y byd hwn unwaith yn barod, ac a gyflwynoad ei hun yn weledig i lygaid dynion. Yr oeddynt yn llygaid-dystion o'i fawrhydi; a'r hyn a glywodd yr apostolion, a'r hyn a welsant â'u llygaid, a'r hyn yr edrych- asant arno, yr hyn a deimlodd eu dwylaw am Air y bywyd, hyny a draethasantini: i'e, y mae hi yn ffaith fwyaf syn, fod Duw wedi ymddangos yn y cnawd! ac wedi ei wneuthur o wraig, a'i wneuthur tan y ddeddf, fel y prynai y rhai oedd dan y ddeddf, Gal. iv. 4. " Y Gair a wnaeth- pwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni; ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogon- iant megys yr uniganedig oddiwrth y Tad, ynllawngrasagwirionedd." Ie, "yroedd efe yn ffurf Duw, ac ni thybiodd yn drais i fod yn ogyfuwch a Duw, eto, efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymeryd arno agwedd gwas, ac awnaethpwyd ynnghy- ffelybiaeth dynion, ac a gafwyd mewn dull fel dyn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fod ynufyddhyd angau, ie, angauy groes!" Yn y sefyllfa ymddarostyngawl hòno yr oedd efe yn ddarostyngedig i holl wendid- au dibechod ein natur. Ac ynddi efe a bregethodd efengyl y deyrnas ; ac a fu by w bywyd santaidd a difai er esiampl i ni; ac a fu farw, y cyfiawn dros yr annghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw;—" efe a roes ei hunyn bridwerth dros lawer." Ac wedi iddo gyflawni y rhan fwyaf pwysig o'r gwaith grasol a gymerodd arno, efe a goll- wyd o'r golwg yn y byd hwn, ac ni welwn ef mwy ar y ddaear, gorsaf ei weithred- oedd blaenorol, yn mha le yr oedd ef yn myned o amgylch gan wneuthur daioni. Efe a arweiniodd ei ddysgyblion ganbelled a Bethania; ac yna y bu, tra yr oedd efe yn eu bendithio hwy, efe a ymadawodd oddiwrthynt, ac a gymerwyd i fyny i'r * L&te Scnior Minister of the Unitcd Seccssion Church, Mount Plcasant, Linerpool.