Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, eORFHEIHAF, 1842. ISuctjelröiaet!). ♦------ BYWGRAFFIAD Y PRESIDENT EDWARDS, O AMERICA. Parhad tudalen 163. Yr oedd Mr. Edwards, o herwydd ei enwogrwydd mawr fel pregethwr galluog a llwyddiannus, yn derbyn gwahoddiadau mynych oddiwrth amrywiol eglwysi, i ddyfod i lafurio i'w mysg am yehydig amser. Trwy gydsyniad ei bobl, a thrwy fod ei bulpud ei hun yn cael ei ddiwallu (supplied), efe a âi yn fynych ar y teith- iau cenadol hyn, gan ddwyn yn ei law gleddyf yr Ysbryd,—y cleddyf' hwnw â pha un yr oedd wedi bod mor aml yn gyru byddinoedd y gelynion ar ffo. "It was a two-edged blade, Of heavenly temper keen; And donble were the wounds it made, Where' er it glanced between." Yr oedd yn cael ei wobrwyo yn helaeth yn y diwygiadau cyffredinol ar grefydd a ddylynai ei lai'ur. Tra yr oedd Mr. Edwards fel hyn yn llafurio er dwyn yn mlaen deyrnas ei Feistr mewn gwledydd pellenig, ei ymdrechion drachefn yn mysg ei bobl a ddylynwyd â llwyddiant an- nghyffredinol. Yr oedd yn amlwg yn ngwanwyn 1740, fod Ysbryd Duw yn gweithio yn mysg y bobl, yn neillduol yn mhlith yr ieuainc; a chefid prawf bodd- lonawl mewn rhai personau penodol o gyfnewidiad trwyadl. Parhaodd y sefyllfa hon ar bethau trwy yr haf a'r hydref. Yn hydref y flwyddyn hòno daeth yr enwog Mr. Whitefìeld ar ymweliad at Mr. Edwards i Northampton. Pregeth- odd bum pregeth ync, y rhai a ddylyn- wyd â deffroad yn mysg proffeswyr crefydd, ac yn fuan wedi hyny âg ystyr- iaetíi ddifrifol yn mhlith yr ieuainc. Cymerodd Mr. Edwards y cyfleusdrahwn i ymddyddan â Mr. Whitefield yn nghylch cynhyjrfiadau (impulses), ar ba rai yr ys- tyriai. fod y boneddwr hwn yn gosod gormod pwys. Ymddyddanai hefyd â Mr. Whitefield yn nghylch ei arferiad o farnu personau ereill yn anargyhoedded- ig, ac amlygai ei annghymeradwyaeth penderfynol ef ei hun yn erbyn yr arferiad. Yr oedd yr holl gyfeillach yn gynhes a serchogaidd. Eto yr oedd Mr. Edwards yn cael ei dueddu i feddwl fod Mr. Whitefield yn ei olygu rywbeth yn Uai fel 2b cyfaill ymddiriedol, nag y buasai iddo wneyd pe nas gwrthwynebasai efe ef ar y pynciau hyn. Nid oedd effeithiau llafur Mr. Edwards yn cael eu cyfyngu i ei wlad ef ei hun, ílawer llai ei gynulleidfa ei hun, ond yr oeddynt yn cyraedd hyd yn nod i'r ynys bellenig hon. Adgyhoeddwyd amrai o ysgrifeniadau Mr. Edwards yn yr Alban, y rhai a gynyrchasant effeithiau mawrion a dyinunol, fel yr helaeth dystid gan y goìygfeydd cynhyrfawl yn Cambulsang, ac uwchlaw deg-ar-hugain o drefydd a phentrefydd. Bu cyhoeddiad gweithiau Mr. Edwards yn yr Alban yn foddion i godi ymohebiaeth rhyngddo ac amrai o geinion enwocaf Eglwys Scotland, yn mhlith pa rai y gellir crybwyll enwau Maclaurin ac Ershine, a'r duwiol M'Cul- loch o Cambulsang. Yn yr hydref, 1744, bu i nifer o weinidogion galluog yn Scotland, yn mysg pa rai yr oedd gohebwyr Mr. Edwards, yn gweled fod sefyllfa yr eglwys a'r byd yn galw yn uchel am weddi unol ac annghyffredinol at Dduw ar yr achos, benderfynu fod i Gristionog- ion yn gyffredinol neillduo rhan o bob wythnos, sef, prydnawn Sadwrn, a bore Sabboth, i'w âreulio mewn gweddi, i'r perwyl uchod. Anfonwyd y cynllun hwn at Mr. Edwards, yr hwn a dderbyniwyd yn resawgar ganddo, ac a wnaeth bob peth yn ei allu er cael derbyniad cyffred- inol iddo gan yreglwysi Americanaidd. Yn 1747, David Brainerd, yr hwn y darfu Mr. Edwards ei gyfarfod yn flaenor- ol ar un o'i deithiau cenadol, a bywgraflìad yr hwn a ysgrifenodd wedi hyny, a ddaeth i Loegr Newydd, ac a arhosodd yn ei dý ef. Meddylid fod Mr. Brainerd y pryd hwn yn y darfodedigaeth. Cafodd Mr. Edwards a'i deulu fudd a phleser mawr oddiwrth ei gwmniaeth. Ond dechreuodd iechyd y cenadwr cysegredig raddol waethygu, ac yn fuan ymddanghosai yn amlwg nas gallasai fyw yn hir. "Ar fore dydd yr Arglwydd, Hydref « 4ydd," medd Mr. Edwards, "felag yr oedd fy merch Jerusha, yr hon yn benaf a weinyddai iddo, yn dyfod i'r ystafell, efe