Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, AM MEDI, 1842. GWOBR-DRAETH AR GODl YN FORE. Yr arferiad o godi yn fore sydd arfer- iad tra angenrheidiol er cysur a dedwydd- wch y teulu dynol; ac y mae yr amry wiol wrthddrychau ag y mae genym hanes am danynt yn deilwng o'u hefelyehu yn yr arferiad canmoladwy hwn. Ar godiad y wawr y bu yr angylion yn daer ar Lot, gan ddywedyd, "Cyfod, cymer dy wraig a'th ddwy ferched y rhai sydd i'w cael; rhag dy ddyfethadi yn anwiredd y ddinas." Pan y bu i Dduw brofi Abraham, trwy ddweyd wrtho am offrymu ei fab yn boeth- offrwm, efe a fore-gododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab, ac a holltodd goed y poeth-offrwm, ac a gyfododd, ac a aetb. i'r ìle a ddywedasai Duw wrtho. Jacob hefyd a gyfododd yn forei Yn y bore yr oedd yr Israeliaid gynt i gasglu y manna; erbyn y bore yr oedd Moses i fod yn barod, a gorchymyn Duw iddo fyned i fyny yn fore iawn i fynydd Sinai. " A Moses a gyfododd yn fore, fel y gorchy- mynasai yr Arglwydd iddo." Yn fore ar godiad y wawr, y cyfododd y bobl pan amgylchwyd dinas Jericho; a Josua a gyfododd yn fore, a'r offeiriaid y rhai a ddygasant arch yr Arglwydd. Pan oedd Dafydd a'i bobl yn myned dros yr Ior-. ddonen, codasant ac aethant drosodd erbyn goleuo y bore; nid oedd un yn eisiau. Yr oedd meibion Lefi gynt, o fab ugain mlẁydd ac uchod, i fod wrth law meibion Aaron yn ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, i sefyll bob bore i foliannu ac i ogoneddu yr Arglwydd. Yn adeiladaeth mur Jerusalem, yn amser Nehemia, han- ner y gweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a'u hanner hwynt yn dal gwaew- ffyn o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y ser. Yn fore iawn, ar y wawr ddydd, y cododd y brenin Darius, pan oedd Daniel yn ffau y llewod. Yn fure iawn y daeth y gwragedd at y bedd, lle y bu ein Hiesu bendigedig yn gorwedd ynddo. Y mae asynod gwylltion yr anialwch yn myned allan i'w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore; y mae adar y net'oedd yn lleisio oddi rhwng y cangenau, ac yn pêr-byncio eu caniadau son^aruS; yn fore. Y cenawon Hewod, ar godiaá ýr haul, aruantam ys- 2k glyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw. Y morgrug hefyd, er nad oes ganddyntneb i'w harwain, i'w Uywodr- aethu, na'u meistroli, ydynt yn parotoieu bwyd, ac yn casglu eu lluniaeth, pan mae y diogyn yn gorwedd ac yn cysgu yn dawel yn ei wely. " Dyn a â allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr;" ond nid pob dyn—nid y dyn diog. Ed- rycher ar faes y dyn diog, ceir gweled drain wedi codi ar hyd-ddo oll; danadl wedi cuddio ei wyneb ef; a'i fagwyr gerig wedi syrthio i'r llawr : a phan elwir arno i godi, ac y dywedir wrtho, " Pa hyd, ddiogyn, y goiweddi? pa bryd y cyfodi o'thgwsg?" ei iaith ddioglyd ef yw, " Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw igysgu;" mewn man arall, "'ychydig wasgu dwylaw i gysgu." Gellir cyfeirio ymadroddion Bildad wrth Job atom ni yn bersonol yn awr: " Os tydi a fore-godi at Dduw, ac a weddii ar yr Hollalluog; os pur ac un- iawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awrhon, aca wna drigfa dy gyfiawnderyn llwyddiannus. Er bod dy ddechread ya fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn d'dirfawr. Oblegid gofyn, atolwg, i'r oes gŷnt, ac ymbarotoa i chwiîio eu henaf- iaid hwynt. Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, o herwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear," Job viii. 5, 6, 7,8, 9. Sylwaf ar y pethau canlynol, sef, yn I. Annogaethau i godi yn fore. II. Pamor forei godi. III. Effeithiau a manteision codi yn fore ar y corff a'r meddwl. IV. Dybenion codi yn fore. Ond, yn I. Annoyaethau i godi yn fore. — Yn 1. Galwadau y gair sant'- aidd i hyn.—Y mae gair Duw yn ein gwahardd i hir gysgu; ac nid yw gair Duw yn ein gwahardd i ddim ond yr hyn sydd ddrwg; a chan fod cysgu yn hir yn ddrwg, o ganlyniad y mae yn rhaid fod codi yn fore yn dda; gan hyny, "peid- iwch à gwneuthur drwg, dysgwch wneuth- ur daioni;—cilia oddiwrth ddrwg, a gwna dda. Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dylawd. Rhodiwn yn weddus, raegys