Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YB ATHRAW, RHAGFYR, 1842. Suímnptrlríaetfj. <—^.— PAUL YN SIAMPL I WEINIDOGION CRISTIOÍÍOGOL, GAN Y DIWEDDAR BARCH. DR. NEWMAN. AT OLYGYDD YR ATHRAW. Barch. Gyfaill, — Cefais fudd mawr wrth ddarllen y Ddarlith ganlynol; ac er mwyn fy nghydwladwyr, ac hefyd i dalu teyrnged o barch a chefnogiad i'm hen Athraw anwyl, y cyfieithais hi. Gall fod yn fuddiol i godi awydd yn efengylwyryr oes i geisio efelychu y nodwedd tra theil- wng a ddarlunir ynddi, ac hefyd i wneyd y neb sydd anystyriol yn fwy teimladwy o bwysigrwydd y swydd. Crynedig. Mynydd Seion, Hyd. 15, 1842. Mae siampl Paul yn dra rhyfeddol a deniadol yn ei holl ranau. Synir ni gan ei ostyngeiddrwydd.—Yn drywanedig gan deimlad o euogrwydd am erledigaeth, darlunia ei hun yn " benaf o bechaduriaid." Y mae yn rhaid fod yr eglẁys a hanfodai y pryd hwnw yn ei ystyried ef y penaf o'r saint, eto yn ei dyb ei hun yr oedd yn "llai na'r lleiaf." Pan ydoedd trigolion Lycaonia gynt yn dyrchafu eu llef, ac yn dywedyd, "Y duwiau yn rhith dynion a ädisgyn- asant atom," ac y tybid mai efe ydoedd Mercurins, duw hyawdledd, am mai "efe oedd yr ymadroddwr penaf," yr oedd yn dra awyddus a chyflym i wella y cam- gymeriad. Pan, gyda'r Corinthiaid, y gorfodwyd ef mewn hunan-ddiffyniad i siared am dano ei hun mewn dull a allai ymddangos yn debyg i ymffrost-^-ei an- ewyllysgarwch, ei betrusder, a'i esgus- odion a arddanghosant wrthwynebiad cryf i ysbryd y twyllwr, yr hwn bob amser oedd barod i amlygu i'r byd ei fod ef " yn rhywun mawr." Pan y cafodd achos i son am y gweledigaethau annghy- ffredin â pha rai y rhagorfreintiwyd ef, defnyddia y trydydd person i wneyd hyny, gan ddywedyd, "Adwaenwn ddyn yn Nghrist," &c. Pan y cofrestra amryw anghreifftiau o ymddanghosiad personol ein Harglwydd ar ol ei adgyfodiad, y mae yn ei gysylltu ei hun â'r anrhydedd neill- ouol hyny gyda'r gŵyleidd-dra a'r lled- neisrwydd mẃyaf: " Ac yn ddiweddaf oll y gwelwyd ef genyf finauhefyd, megys gan un annhymig. Canys myfi yw y lleiaf o'r apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw. Eithr trwy ras Duw yrydwyfyr hyn ydwyf: a'i ras ef yr hwn a roddwyd i mi ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Dtjw yr hwn oedd gyda mi." Yn hyn oll gweíwn ddylynwr yr Hwn sydd " addfwyn a gostyngedig o galon." Boddheir ni ynfawrgan eifynegiadau o'i gariad santaidd.—Hyn a'i harweiniai i ddywedyd wrth y Rhufeiniaid, " Yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfranu i chẃi ryw ddawn ysbrydol, fel y'ch cadarnhäer; a hyny sydd i'm cyd- gysuro ynoch chwi, trwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a'r eiddof fìnau." Wrth y Corinthiaid : " Canys mi a ddywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonau ni, i farw ac i fyw gyda chwi." Wrth y Galatiaid: " Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn hyd oni ffurfier Crist ynoch." Wrth y Philip- piaid: "CanysDuw sydddystimi, mor hiraethus wyf am danoch oll yn ymysgar- oedd Iesu Grist.—Fy mrodyr anwyl a hoff, fy llawenydd a'm coron.íelly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd." Wrth y Thessaloniaid: " Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megys mammaeth yn maethu ei phlant. Felly, gan eich hoífi chwi, ni a welsom yn dda gyfranu & chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn anwyl genym. A ninau frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid am danoch dros enydawrynngolwg, nidyn nghalon, a fuom yn fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr. Am hyny yr ewyllysiasom ddyfod atoch (myfi Paul) yn ddiau, unwaith a dwywaith hefyd; eithr Satan a'n Unddiodd ni. Canys beth yw ein gobaith, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoíedd ? onid chwychwi ger*