Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, rawnra a§êBo íUuönnpDötaetí). ------+------ LLYTHYRAU AT GYFAILL WRTH GYCHWYN YN NGWAITH Y WEINIDOGAETH. LLYTHYR II. "Ac O mordda yu> gair yn ei amser!"—Solomon. Fy nhra Hoffus Gyfaill, — Yn niwedd fy llythyr cyntaf, lled-awgrymais y buaswn yn äwyn rhai rhesymau neu brofion chwanegol o fodolaeth Duw; a chan i mi ddechreu ar y gorchwyl, barn- wyf mai annoethineb fyddai i mi daflu y pin o'm llaw cyn sylwi ychydig yn helaeth- ach ar y mater: ac mewn gwirionedd nid oedd fy llythyr blaenorol ddim amgen na gosod y pwnc i lawr, apharotoi dy feddwl at yr hyn y sylwaf arno yn ol llaw. Er mwyn ystyried y gwirionedd pwysfawr hwn yn mhellach, gosodaf i lawr y rhe- symau canlynol ( os teilwng o'r enw) :— I. Gwelwn fod Duw, oddiwrth gread- uriaid sydd wedieu cynysgaethu âbywyd iselach (lower life) yn eu cyfansoddiad na dyn. 1. Nid ydyw o fewn gallu un creadur i wneuthur gwybedyn, neu ry w greadur llai, ond yn ol deddfau crè'edig a gosod- edig natur; a'r hyn a elwir yn fywyd, neu yn egwyddor i'w holl weithrediadau, nis gall neb ei roddi ond Duw yn unig ; gan hyny y mae ei fodolaeth i'w brofi oddiwrth natur bywyd holl greaduriaid y maes, îs yn eu cyfansoddiad na dyn, llawer o ba rai ydynt wasanaethgar i'w gilydd, ac oll i ddyn, yr hwn a gyfenwyd yn arglwydd ar yr holl greadigaeth. Nid ydynt felly o honynt eu hunain, nac ychwaith trwy ein gorchymyn ni; gan hyny gwneir hwy felly gan Dduw, yr hwn ydyw Awdwr natur. 2. Y mae naturiol weithrediadau cread- uriaid afresymol o bob math, a phob un yn gweithredu yn ol ei natur, a rhai o'r creaduriaid lleiaf yn cyflawni pethau na all celfyddyd ddynol eu hefelychu, yn Çglur brofi bod Duw. Megys pe meddyl- iem am gywreinmydd yr aderyn yn adeil- adu ei nyth; y pryf copyn yn gwau ei wê ; y wenynen yn darparu celloedd cyfaddas i'w mêl; a'r morgrugyn, er nad ydyw yn nerthol, yn trysori ei luniaeth yr haferbyn ygauaf; ypryfsidanog(siMr-u>onw) mewn darparu gwisgoedd i ddyn, ac mewn cael ei gyfnewid i amryw wahanol ddulliau; a Uawer o greaduriaid ereill, llaina'r rhai a enwais, a weithredant mewn ffordd ry» feddol, heb reswm na chynllun. Y mae y rhai hyn oll yn profì bod Duw." 3. Y mae creaduriaid creill, mwy eu maintioli, a mwy eu cryfder a'u creulon- deb, megys y llew, yr arth, y dywalgi, a'r llewpard, a bwystfilod ereill yr anialwch, wedi cael gorchymyn i ffoi rhag dyn, yr hwn y gallent yn hawdd ei orchfygu; a gochelyd lleoedd preswylfod dynion, me- gys dinasoedd a phentrefydd, fel y gallom ni drigo mewn diogelwch. Ni orfodogwyd hwy i breswylio lleoedd annghyfanedd genym ni; onä y cyfryw leoedd sydd hoff ganddynt, ac a drefnwyd iddynt breswylio ynddynt gan éu Creawdwr Hollalluog. 4. Ni ŵyr y creaduriaid ereill, y rhai sydd fwyaf gwasanaethgar i ddyn, megys y ceffyl, y fuwch, y c'amel, &c, mo'u gallu eu hunain a'u cryfder i ymladd ýn erbyn dyn, ond y maent yn cael eu gor- uwchlywodraethu i fod yn ufydd trwy ddoethineb digyfrwng eu Creawdwr. Ac y mae y pethau hyn, a llawer ereiU o'r cyffelyb natur, oll yn brofion, yn golofn- au, ac yn resymau cedyrn i brofi bod Duw, gogoniant yr hwn sydd yn dysgleirio yn ei holl weithredoedd. II. Ymddengys i mi fod Duw, oddiwrth wneuthuriad (structure) y cyrfl' dynol, yn yr ystyriaeth o'u bod wedi cael eu gwneyd yn ofnadwy a rhyfedd; ac wrth ystyried ein gwneuthuriad heb un cyfeiriad neill- duol at ddeddfau a rheolau natur, fel ag y mae creaduriaid afresymol yn cael eu ffurfio, y mae hyn yn myned tuhwnt i allu, medr, a dyfais pob creadur; ac nis gellir ei briodolii neb ond i'r Bôd o Dduw; gan hyny, y mae yn brawf cadarn ac eglur o'i fôd a'iberffeithderau. Niwnaeth dyn erioed gj'meryd arno roddi siampl o'i fedrusrwydd a'i gywreinrwydd yn hyn: y cerfiwr mwyaf cywrain, y delw-wneuth- urwyr mwyaf teledwiw, pa rai a efelych- asant gyrff dynol mewn darluniau (Hke- nesses) o honynt, ni wnaethant erioed gymeryd arnynt roddi bywyd i un; ac yma y mae eu doethineb a'u dyfais yn