Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, AM Duünnpü&iaetlj* Y DEG LLWYTH ISRAEL SYDD AR GOLL. GAN Y PARCH. W. M. HETHERINGTON, A. M. RHIF. IV. Fe ddangoswyd ddarfod i'r deg llwyth gael eu dychwelyd at Gristionogaeth o fewn ychydig flyuyddau wedi esgyniad ein Harglwydd, a ehyn i ddim athrawiaethau gauddyfod i mewn a llygru ffydd bur yr efengyí; ddarfod iddynt barhau i bres- wylio yn eu henciliad diogel yu mhlith mynyddoedd Carduchia, pryd yr oedd yr oli oamgylch iddynt wedi eu hanrheithio gan ryfeloedd ffyrnig a hir barhaol, a'u cyfnewid drosodd a throsodd drachefn gan gyfodiad a chwymp amherodraethau; a bod yn hysbys mai hwy oedd trigolion y wlad hòno yn nyddiau Jerome, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 420. Gan fod eu helynt fel yna, gallai y cwestiwn yn bur naturiol gael ei ofyn, Pa fodd y dy- gwyddodd ddarfod iddynt yr amser hwnw ddiflanu o sylw hyd yn nod ysgrifenwyr eglwysig—gan ei f'od yn wir, nad oes yr un ysgrifenwr Cristionogol diweddarach yn son am danynt? l'r gofyniad hwn hefyd gellir rhoddi atebiad boddhaol, fel yr ydym yn myned yn mlaen i ddangos yn awr. Gŵyr pob darllenydd hanesiaeth eg- lwysig, fod yr eglwys Gristionogol, yn flaenorol i'r cyfnod hwnw, wedi suddo i ddwfn lygredigaeth, ac iddi, dro ar ol tro, bron gael ei llethu gan heresiau dinystr- iol. Yn enwedigol gellir adrodd ddarfod i'r priodoliad eilunaddolgar o addoliad dwyfol i'r Forwyn Fair ddyfod yn dra yrndaenawl (prevulent), yn gymysgedig âllawero ddulliau afresymol o gyfarch- iad. TJn enwad yn bur gyffredinol a roddid iddi hi ydoedd, " Mam Duw," —enwad, yrhwn i bob protestant goleu- e«ÍR. a raid ymddangos yn gyfarta! an- nuwiol a gwrthnn. Ond pan oedd delw- addoliaeth fel hyn yn gyflym yn cyraedd arwy y byd Cristionogol, gan ddwyn i mewn yr addoliad o'r Forwyn, o angyl- îu'i ° seintiau> ° greiriau (relics), ac o aaelwau, yr oedd ychydig, y rhai a ym- egniasant i wrthsefyll ŷ llanw o lygredig- n aa-°rrhaihyn> un °'r rhaimwyaf ^odedig oedd Nestorius, o enedigaeth yn Syriad, ac a ddygwyd i fyny yn Antiochia. Ymddengys nid yn annhebygol, ddarfod i'w ddechread Syriaidd a'i ddygiad i fyny ei ddiogelu rhag y llygredigaethau a orchuddiasant yr eglwysi yn mharth gor- llewinol Asia, a thrwy y rhan fwyaf o Affrica ac Ewrop; a thrwy hyny ei bar- otoi i'r sefyllfa ag yr oedd ele yn fuan i'w meddiannu, i'el gwrthwynebwr arweiniol yn erbyn ofergoeledd eilunaddolgar. Fe'i gosodwyd yn esgob Caer Cystenyn, gan yr amherawdwr Theodosius, yn y flwydd- yn 429. Yn bur fuan wedi ei ddyfodiad i'r brif-ddinas ddwyreiniol, gwrthwyneb- odd y gogwyddiad eilunaddolgar rhag- grybwylledig. Cafodd hyn ar unwaith ei gymeryd yn ddrwg gan yr offeiriadaeth fudr-wobrawl, ac arweiniodd iddadl wyllt, yr hon a ddiweddodd yn niswyddiad Nes- torius gan gymanfa Ephesus, yn y flwydd- yn 431. Fe ymneillduodd i Antiochia, ac a barhaodd i fyntumio ei ddaliadau ; y rhai hefyd a ddyweddiwyd (espoused) yn gynhesawl gan eglwysi Syria. Ar ol pedair blyuedd o arhosiad yn Antiochia, t'e'i halltudiwyd i Tarsus, ac oddiyno i'r Aifft Uchaf, lle y bu íarw. Ond ni fu farw y ddadl gydag ef. Yn Rhufain, ac yn Nghaer Cystenyn, ac yn wir trwy y rhan fwyaf o'r byd Cristionogol, yr oedd addoliad y Forwyu eisioes wedi gwreiddio yn ddwfn; ac yr oedd daliadau Nestorius yn cael eu collfarnu fel heresi, pan yr oedd pawb a feiddient wrthwynebu yr addoliad eilunaddolgar hyny yn cael eu gwaradwyddo fel Nestoriaid a hereticiaid. Llawer, yn ddiamheuol, a gynalient ddal- iadau Nestorius, nid am eu bod yn gan- lynwyr iddo, ond o achos eu bod hwythau, fel yntau, wedi derbyn yn flaenorol, ac wedi parhau i achlesu, flydd ac addoliad purach, a mwy ysgrythyrol. Ysgrifenwyr eglwysig a adroddant ddarfod i ddaliadau Nestorius ymdaénu gyda buandra anhygoel drwy Syria, Me- sopotamia, Caldea, Arabia, Nisibis (neu Adiabene), ac hyd yn nod i'r India a Chiaa; ac yr oeddynt yn cael derbyniad