Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, (ÄimiiraÄ a§êB= ©utomptmtaetf). Y DEG LLWYTH ISRAEL SYDD AR GOLL. GAN Y PABCH. W. M. HETHERINGTON, A. M. RHIF. V. Hyd yn hyn buom yn ceisio, a gobeith- iwn mai nid yn anwyddiannus, profi ddarfod i'r deg llwyth gael eu gosod gan Tilgath-pileser, a'i olynwr Shalamaneser, yn y rhan hòno o'r wlad fynyddig a adna- byddir wrth yr enw cyffredin Armenia, yr hon a elwid yn ngwahanol oesau, a chan wahanol bobl, Gozan, neu Zozan, Car- duchia, Adiabene, a Curdistan, neu, fel y mae rhai yn ei sillebu, Roordistan ; bod y rhan fwyaf o'r deg llwyth yn parhau byth wedi hyny i gyfaneddu y wlad hòno, yn ddigyfnewid ac heb eu dystrywio yn mhlith cyfuewidiadau amherodraethau a dinystr llywodraethau o amgylch iddynt; ddarfod iddynt gael eu dychwelyd i'r ffydd Gristionogol o fewn ychydig iawn o flyn- yddau wedi croeshoeliad y Gwaredwr, ac yn benaf drwy offerynoliaeth yr apostol Thomas, yn cael ei gynorthwyo hefyd gan Bartholomeus a Thadeus; ddarfod iddynt gadw purdeb a symledd cyntefig eu ffydd; am hyny, yn naturiol ac angenrheidiol hwy a gefnogasant Nestorius, pan yr ym- drechodd i attal cynydd llygredigaeth, a hwy a dderbyniasant, mewn canlyniad, yr enw o Nestoriaid, dan ba enwad o gambriodoliad cafodd eu gwir wreiddyn a.'u henw eu cuddio am lawer canrif; ac iddynt fod am dymhor maith, y ffyddlawn, y grymus, a'r llwyddiannus genhadon Cristionogaeth yn y dwyrain bell, dros amser llygredigaeth a thywyllwch pabaidd drwy holl wledydd cred y gorllewin. Yr ydym yn awr i djdangos cyflwr presenol yr eglwys hòno yn yr anialwch; ac yn hyn cawn ddylyn arweiniad y Dr. Asahel ^rant, o waith pa un y cawn wneyd defn- yddhael. Sylw y byd Cristionogol a dynwyd gyntaf athanesiaeth neillduol y Nestoriaid gan orchestol adgeisiadau dau ddyn dysg- wlS» ychydig dros gan mlynedd yn ol, sef losheim ac A-sseman. Am yr hanesydd ía ad'iabyddus Mosheim, afreidiol ydyw laoddi unrhyw hanes. Joseph Simon . ^sseman, Maroniad, a anfonwyd, yn y uwyddyn 1715, gan Pab Clement Xí, i 2 c ymweled â mynachlogydd yr Aifft aSyria, mewn ymofyniad am ysgrifau. Fe gy- hoeddodd bedair o gyfrolau un plyg yn Rhufain rhwng y flwyddyn 1719 a 1728, dau yr enw Bibliotheca Orientaìis: ac yn y gwaith cywrain yma y ceir yr hanes fwyaf cyflawn a helaeth am y Nes- toriaid, yh enwedigol yu y bedwaredd gyfrol. Er hyny, fe luddiodd y dynodiad anffodiog a chamddefnyddiol, Nestoriaid, yr eglwys Gristionogol rhag cyfeirio at y corff o bobl a ddynodwyd felly y sylw ag yr oedd eu nodweddiad a'u helyntion yn ei deilyngu; a hwy a barhasant i fod yn gydmhariaethol anadnabyddus. O'r di- wedd darfu i ddau o Americiaid, Meistri Smith a Dwight, ymweled â'r Nestoriaid yn y flwyddyn 1831, a thueddwyd gan eu hadroddiad hwy y Bwrdd Americaidd o ddirprwywyr am genhadaethau tramori benderfynu ar ffurfiad cenhadaeth at y weddw hòno o'r eglwys gyntefig. Gwnäed hyn yn gyfatebol, a mabwysiadwyd y mesur doeth o gysylltu phisygwr (y Dr. Asahel Grant) â'r genhadaeth. Gwedi treulio peth amser yn fforio (explore) y gwledydd cyffiniol, ac mewn ararai deith- iau meithion a pheryglus, treiddiodd Dr. Grant i berfeddion y wlad fynyddig a gyf- aneddir gan y Nestoriaid annibynol, fel y gelwir hwynt yn gyffredin, arhosodd gryn yspaid yn eu plith, ac yn ganlynol fe gy- hoeddoäd hanes dra dyddorawl o honynt, o ba un y detholwn y pynciau a ganlyn, fel yn benaf yn teilyngu sylw. Y mae prýd y gwyneb Hebreaidd wedi ei nodi mor benderfynol a neillduol, fel nad oes ond ychydig, neu ddim, anhaws- dra i adnabod Iuddew wrth ei wyneb. Y mae yn nghymydogaeth Curdistan, ac hyd yn nod yn mhlith y mynyddoedd a gyfaneddirgan y Nestoriâid, fel y geìwir hwynt, Iuddewon a addefir felly; hyny yw, yn cymhwyso yr enw plant Israel atynt eu hunain, ac yn ymlynu at holl neillduoliön y sefydliadau Moesenaidd. Rhwng yr Iuddewon addefedig hyn a'r bobl a elwir Nestoriaid nid oes dim gwa-