Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, AM ÖOörau 2 29uU)etnptrìT ------♦------ HEDDWCH. Yn mhlith pethau ereill a gollwyd trẁy bechod, y mae yn debyg fod heddwch yn un o'r pethau penaf. Pan greodd Duw y byd, yr oedd pob peth ynddo wedi ei wisgo â phrydí'erthwch, a llun heddwch wedi ei geríio ar bob rhan o hono. O! olygfa ddymunol, onidêí Pob peth ar wyneb y byd mawr yn chwerthin ar eu gilydd mewn cariad. Dyma yr olygfa brydferth ag oedd ar y byd pan wnaeth dyn ei ymddanghosiad cyntaf ynddo: pawb a phob peth trwy y ddaear yn ddeiliaid cyffredin o un gymdeithas fawr, arwyddair yr hon ydoedd, "Heddwch, heddioch, i bell ac i agos!" Yr «edd y byd nid yn unig mewn heddwch âg ef ei hun, ond hefyd mewn cynghrair â'r Nef. Ni gawn holl feibion Duw yn gorfoleddu ar enedigaeth y byd; a Duw ei hunan yn gwaeddi oddiuchod mewn boddlonrwydd, " Wele da iawn ydoedd." Yr oedd dyn yn gyfaill i Dduw, a Duw yn rhan ac yn etifeddiaeth i'r dyn. Nid yn unig yr oedd hi heb fod yn ddrwg rhyngddynt, ond yr oeddynt yn gyfeillion, a'u cyfeillgarwch wedi ei sefydlu ar gycUdarawiad meddwl, ac undeb golygiadau. Barnent yr un fath am bob peth—edrychent yn yr un goleu ar bob peth—ymdrechent a chefnogent yr un rhinweddau—gwrthsafent a gwylient yn erbyn cyfodiad yr un drygau. Ambassador o'r nef, wedi ei wisgo yn nhrwsiad y ddaear, i roddi cynlluniau ei Frenin anfeidrol mewn ymarferiad ar y ddaear, i faethu undeb, a diogelu hedd- wch y ddwy wlad, ydoedd dyn! Ond nid hir y parhaodd pethau fel hyn. Nid hir yr arosodd yr agwedd ddymunol yma, nes y daeth y diafol, prif elyn ei Fawrhydi nefol, yn mlaen i gynyg total repeal, llwyr ddiddymiad ar y deddfau ag ydoedd yn cyfansoddi undeb a dedwyddwch y ddwy wlad. Gwrandawodd dyn ar lais y temtiwr, tybiodd osod ei hun ar yr un tir a'i Gre- awdwr, sef bod megys Duw; a chynyg- iodd at goroh a gorsedd y Jehofa. Mewn canlyuiad i hyn, torwyd yr heddwch oedd rhwng nefoedd a daear; a gosodwyd dyn i yn y perygl mwyaf ofnadwy o gael ei rwymo draed a dwylaw, a'i daflu i gad- ' 2 T wynau annattodadwy y carchar Satan- aidd dros byth. Dyma ddechre y frwydr gyntaf yn y byd; dyma oedd dechre y frwydr fwyaf cyffredinol, a hwyaf ei pharhad. Brwydr rhwng Duw a dyn! Hollalluogrwydd a gwendid! Brwydr rhwng Creawdwr a chreadur—rhwng Cynaliwr y bydoedd a phryfyn y llwch! Rhoddwyd y challenge allan gan y blaid wanaf; a hyny heb y rheswm lleiaf dros yr ymddygiad. Cynygiodd dyn trwy bechod i ddinystrio pob rhwymau o gyf- rifoldeb i Dduw oddiam dano ambyth; a thrwy hyny collodd ffafr ei Dduw— cododd hifddorau trueni; gosododd ei hunan o flaen ffroenau cannons Hollallu- ogrwydd; ei awyr adduwydgan gymylau digofaint; a'r felldith fygythiedig, "Gan farw ti a fyddi farw," yn barod i ruthro arno o'r tywyllwch digofus. Mewn gair, y mynyd y collodd dyn ffafr Duw, fe goll- odd heddwch o'r byd, a phob peth oedd ynddo. Yr oedd yr holl greaduriaid ar unwaith yn llenwi eu drylliau i'w saethu; yr elfenau yn ymgynghreirio i'w gospi; y llysiau a'r coed yn cydfagu defnydd i'w ladd; îe, yr oedd pob gronyn o ddefnydd yn nghorff y ddaearen yn ffurfio eu hunain yn gatrodau (regiments), ac yn gloywi eu narfau i ddyfod allan, dan arweiniad dialedd Dwyfol, i amddiffyn gogoniant eu Crè'wr yn erbyn brad ymgais y dyn. Ond, gydag awel y dydd, yn lle nesâu yn mlaen i weinyddu ar berson y trosedd- wr y ddedíryd haeddiannol, -\vele gynllun o adferiad heddwch yn cael ei roddi o'r orsedd, ac yn cael ei gyhoeddi gan y Breniu ei hunan. Y dull y gwnaed hyn oedd, cyhoeddi genedigaeth un o'n teulu ni, yn yr hwn y gwisgai y Brenin ei gy* meriad newydd fel "Duw yr heddwch." Trwy hyn ail unwyd y pleidiau gwrthry- felgar mewn aberth mechn'iol; ac fel arwydd o'r heddwch, gwisgwyd y trosedd- wr â chroen ýr aberth cysgodol. Ac yn nghyflawnder yr amser, ymddanghosodd Mab y Brenin fel Ty wysog Tangnefedd ar y ddaear i sefydlu ei orsedd, i wisgo ei goron, ac i ysgwyd ei deyrnwialen yn y deyrnas newydd. Ac y mae heddwch y deiliaid, yn y gymdeithas hon, wedi ei