Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHEAW, Do^raît p I3utoeín&!tfr* -------+------ AM Y DUWDOD. 'Aellidi wrth chwilio gacl gafael arDduw? aellidi gael yr Hollalluog hyd berffeithrwyddî Cyíüwch a'rnefoedd ydyw; bethawneidi? dyfnach naguffernyw; beth a elli di ei wybod? Mae ei fesur ef yn hwy na y ddaear, ae yn lletaèh na y mör." Job xi. 7—9. Pob peth sydd yn deilliaw oddiwrth Dduw. Ei allu sydd yn annherfynedig, ei ddoethineb sydd yn dragwyddol, a'i ddaioni a bery yn dragywydd. Y mae efe yn eistedd ar ei orseddfa yn y nefoedd, ac âg anadl ei wefusau yn rhoddi bywyd i'r byd. Y mae efe yn cyffwrdd â'r ser â'i fysedd, a hwy a redant eu taith gan lawenychu. Ar adenydd y gwynt y mae efe yn rhodio, ac yn cyflawni ei ewyllys trwy ei holl amherodraeth annherfynol. Llais doethineb sydd yn llefaru yn ei holl weithredoedd, ond y deall dynol nid yw yn ei amgyffred ef. Cysgod gwybodaeth sydd yn myned heibio i feddwl dyn fel breuddwyd. Y mae efe yn gweled fel mewn tywyllwch; efe a ymresyma, ond a dwyllir. Ond doethineb Duw sydd fel goleuni y nefoedd: ni ymresyma efe: ei feddwl yw ffynnon y gwirionedd. Cyf- iawndei a thrugaredd sydd yn aros ger- bron ei orseddfa; daioni a chariad yw goleuni ei wynebpryd byth. Pwy sydd gyfíelyb i'r Arglwydd mewn gogoniant? pwy mewn gallu a ymdrecha gyda'r Holl- alluog? A oes ganddo unrhyw un yn gyfartal iddo mewn doethineb? a phwy mewn daioni a gydmherir âg ef? Efe, O ddyn, yw yr hwn a'th greodd di: dy sef- yllfa ar y ddaear sydd wedi ei hordeinio ganddo; galluoedd <íy feddwl ydynt rodd- ion o'i ddaioni ef, a rhyfeddodau dy gyf- ansoddiad ydynt waith ei law. Gwrando gan hyny ar ei lais, canys graslawn yw; yr hwn sydd yn ufyddhau, efe a sefydla ei enaid mewn heddwch.—Dodsley's Econo- my of Human Life. Duw sydd yn dragwyddol, anfeidrol, ac yn Fôd anamgyffredadwy; Creawdwr pob peth, yr hwn sydd yn cynal ac yn llyw- odraethu y cwbl â'i ddoethineb ac â'i allu hollalluog; ac efe yw yr unig wrthddrych teilwng o'n haddoliad.—Duw, a llefaru yn briodol, ni all gael unrhyw enw; canys fel'y mae efe yn un, ac heb fod yn ddar- ostyngedig i'r cyneddfau neillduol hyny ag-sydd yn hynodi dynion, ac oddiar ba 2z rai y canfyddir y gwahanol enwau a roddir iddynt, nid oes arno ef eisiau unrhyw enw i'w wahaniaethu oddiwrth dduw- iau ereill, neu i roddi gwahaniaeth rhyng- ddo ef a'r cyfryw, gan nad oes neb fel efe. Yr enwau, gan hyny, ag yr ydym ni yn eu cyfrif iddo ydynt ddarluniadau agsydd yn dynodieibriodoliaethau dwyfol mewn dull ty wyll a naturiol, o herwydd y maent yn fenthyciol oddiwrth fywyd dynol, neu amgyffrediadau dynol, yn hytrach na gwir enwau i arddangos ei natur.—Calmet's Dictionary of the Bible. Yr ydym yn nodi gallu y Duwdod o dân yr enw o hollalluogrwydd y Bôd penderfynol, cywir, a manwl. Y gallu hwnw a greodd y fath fyd a hwn sydd raid ei fod uwchlaw pob cydmhariaeth rhagor unrhyw un ag yr ydym ni yn ei brofi ynom ein hunain; a rhagor unrhyw un ag yr ydym wedi sylwi arno mewn gwrthddrychau gweledig; a rhagor hefyd unrhyw un a all fod arnom ei eisiau er ein hamddiffyniad a'n cynaliaeth per- sonol. Y mae y fath allu gan hyny nad ydym ni wedi ein hawdurdodi iddo, trwy ein myfyriaeth na'n gwybodaeth, i osod unrhyw derfyn ar eangder neu barhad. Llawer o'r cyffelyb nodiadau sydd yn cael eu priodolii'r enw:—hollwybodaeth, anfeidrolwybodaeth, neuanfeidrolddoeth- ineb: ond yn manyldra iaith y mae gwa- haniaeth rhwng gwybodaeth a doethineb. Doetliineb bob amser sydd yn tybio gweithred, a gweithred yn cael ei chyf- arwyddo ganddo: ond mewn perthynas i wybodaeth, y maeyn rhaidfody Creawd- wr â chanddo wybodaeth gydnabyddus o gyfansoddiadau a chyneddfau y pethau a greodd; yr hyn sydd bob amser yn cy- nwys rhagwybodaeth o'u gweithrediadau y naill ar y llall, mor bell ag y mae yr un effeithiau yn dylyn oddiwrth achosion naturiol ac angenrheidiol. Lle y mae efe yn gweithredu, y mae yn bod; a lle y mae yn bod, y mae yn gweled. Y mae doethineb Duw, fel ag y tystiolaethir ya