Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, CHWEFROR, 1844. -------»------ FFYDD YN CADARNHAU Y DDEDDF. PENNOD II. '•' Na ato Duw : eithr yr ydym yn cadarnhau y ddeddf," Rhuf. iii. 31. Y mae ffydd hefyd bob amscr, yn ddi- ffael, yn darostwng calon y dyn ei lnin i ufydd-dod. Dywed yr apostol, ei fod ef a'i frodyr yn pregethn yr efengyl cr vf- ydd-dod jfydd yn mhlith yr holl Genhedl- oedd. Y mae ffydd yn dwyn ufydd-dod i'w chanlyn. Y mae yn puro y galon oddiwrth lygredd a gelyniaeth yn erbyn Duw, yr hyn yw gwreiddyn pob anufydd- dod. Y mae yn gweithio trwy gariad ; y mae yn cynyrchu cariad at Grist a Duw yn y galon; ac oddiar hwnw fe ufyddheir. Y mae lle i otìii ibd y gwirionedd hwn yn cael ei annghofio yn ormodol y dyddiau hyn; a braidd na thybia ambell un ei fod el' wedi credu yn Nghrist, a'i fod yn ddi- ogel ei gyflwr, er ei fod o ran ei fuchedd yu mheìl oddiwrth fod yn ufydd i Dduw. Mewn rhai ardaloedd yn Nghymru, y mae ganddynt ry w arferiad, wrth ddyfod i'r od- yn a'rfelin, ag y maentynei alw "Bwrw cylch;" a'r modd y bydd y dyn yn gwneyd hyny, fydd dyfod ù swpyn o wellti'r odyn, ac lieb ddyfod à'r cerch ar y pryd. Áiff y dyn i rywle wedi hyny; ac fe fydd yn anmhosibl cael ambell un go allêr yno i ateb i'w gylch pan y daw. Y mae lle i ofni fod ambell un yn meddwl gwneyd rhyw dric tebyg â Duw a'i drefn am fyw- yd. Tybia y dyn ei fod ef wedi rhyw fwrw ei gylch o gredu yn rhy wle yn y i'an draw; ond nid oes dim hanes am dano yn ateb i'w gylch o fyw yn dduwiol. Tybia efe ci i'od wedi "boofcio" gyda cherbyd bywyd trwý grcdu; ond nid oes dim tebyg iddo yn myned gyda'r cerbyd drwy fyw yn dduwiol. Oferedd celwydd yw y cwbl o'r fath ddychymyg. Y" mac dyn yn crcdu yn Nghrist, ac yn byw yn ei bechod, yn wrthddrych na welwyd mohono erioed, ac nas gwelir mohono byth. Y mae yn annichonadwy byth, yn ol y peth yw cyfansoddiad calon dyn, i hyuy fod. Y mae mor anhawdd i ffydd a chariad at bechod fyw yn yr un galon, ag ydyw i ddwfr a thàn fod yn yr un llestr. Y mynyd y caffo y pcchadur ei wddf yn rhydd o'r gollfarn t'awr trwy gredu, y mynyd nesaf rhydd ei wddf yn sound yn iau a gwasanaeth yr hwn fu farw iddo ef gael myned yn rhydd. Nis gallodd yr un pechadur erioed fyned at Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio, am ei fywyd, a'r na byddai yn priodi â'r Iesu cyn un- waith ymadael àg ef. Y mae yn ddiamau mai dyma y rheswm, dyma y paham, y cysylítodd Duw faddeuant pechod achyf- iawnhad kjfydd, am ei bod hi yn dwyii ufydd-dod a santeiddhad i'w chanlyn. Dyma paham y mae cysylltiad wedi ei osod rhwng ffydd a chyfiawnhad, am fod cysylltiad naturiol rhyngddi a santeidd- had. Ond i fanylu ychydigar hyn : yn 1. Y' mae ffydd yn gwneyd ei pherchen- og yn gydnabyddus iawn à'r datguddiad sydd o ddaioni a gras Duw yn wyneb Iesu Grist. Methodd y datguddiad sydd o Dduw mewn natur â chadw Adda i bar- hau i garu Duw, er ei fod yn ei garu yn y dechre. Nid yw yn un gwaradwyẃd ar natur i ddywedyd fel hyn; ac os ydyw, nid oes help—y gwir ydyw. Methodd natur â hel digon o gynyd i'w roddi ar y tân i'w gadw yn fyw, er fod y tàn wedi ei gyneu yn barodar aelwyd calon Adda; ond y mae y datguddiad sydd o Dduw, yn nhrefn gras, yn ddigon nerthol i gyneu y tân mewn lle na bu erioed—yn mynwes rewllyd pechadur. " Canys ymddang- hosodd gras üuw," ebai Paul. Beth wedi hyny, Paul ? beth a wnaethoch chwi wedi gweled gras ? " Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduw- iol yn y byd sydd yr awrhon," Tit. ii. 11. Y mae ffydd ynarwain eipherchen i ddal sylw a bod yn gydnabyddus â'r amlygiad hwn o Dduw. Y mae yr enaid yn fynych ar adenydd ei ffydd yn ehedeg yn ol i'r tragwyddoldeb diddechre, ac yn sefyll ar ei adcn megys uwchben bwrdd y cyf- ammod bore, ac yn syllu yno ar anfeidrol drugaredd yn cynhyrfu, anfeidrol ddoeth- ineb yn llunio, ac annherfynol gariad yu cymeryd yr uniganedig Fab o'r fynwes, ac yn ei roddi i fod yn iawn. "Wedi syllu yn y drych hwu dro," y mae yr enaid fel yn dychwelyd i wlad y ddaear