Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ATHRAW, AM MAWRTH, 1844. Sosran p SuUmnpDln GWIREDD NEU S YLWEDDOLRWYD D YR IAWN. Mr. Gol.—Yr hyn a ganlyn sydd gyfieithiad anmherllaith o Draethodau' Payne ar Sylwedd- olrwydd yr Iawn. Yr hyn a a'chosodd'i mi eu CYÌìeithu 'oedd yr uehel g'ymeradwyaeth a roddir iddynt, ac hefŷd am nà welais ddim yn eich Cyhoeddiad clòdwiw o'r cyffelyb o'r bla'en. B. D. Er cadarnhau y pwnc hwn, yr ydym yn dwyn yn mlaen dystiolaeth union- gyrchiol gair Duw. Y mae y prawfiadau a gyf'arfyddwn yn lluosog; ond nid mor hawdd ydyw eu dosbarthu yn rheolaidd. Ar ol dwys ystyriaeth, tueddirfiifabwys- iadu y rhai canlynol: 1. Yr wyf yn cyfeirio at yr adnodau hyny sydd yn dangos Crist fel yn dwyn anwireddau dynion. " Diau," ebai Esay, "efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddyg ein doluriau.—Yr Arglwydd aroddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd,"—neu a wnaeth i'n hanwireddau gydgyfarfod arno ef. "Efe a ddyg bechodau llaweroedd," Esay liü. 4, 6, 12. "Yr hwn ei hun," ebai yr apostol, "a ddyg ein pechodau ni yn ei gorff ei hun ar y pren." Yn awr y gofyniad ydyw, Pa beth afeddylir wrth ddwijìi pechodau ? Yr ydym ni yn deall y geiriau yn yr ystyriaeth o ddyoddef canlyniadau pechod. Yr ydym yn dal mai hyn yw ystyr naturiol y geiriau fel y derbynir hwynt yn gyffrediu. Yr ydym yn arferol o ddywedyd yn fynych, os bydd i ddyn ymddwyn yn anweddus, fod yn rhaid iddo aros dan ei fai, hyny yw, ddy- oddef y canlyniadau; caDys fel hyn y deallid yr ymadrodd gan bawb. Hyn hefyd, tuhwntibob dadl, yw ystyr ys- grythyrol yr ymadroddion canlynol:— " Eithr chwi a ddywedwch, Paham na ddwg y mab anwiredd y tad ?" (Ezec. xviii. 19, 20,)—sefmarw o'r naill yn lle yllall. Yn llyfr Lefiticus y mae yr ymadrodd twn yn mynych ddygwydd, lle nid yw yn bosibl camsynied ei ystyr. Am y neb a fyddo euog yn achos afiendid, dywedir yn pen. xx. 17 :—" Efe a ddwg ei bech- °d," h. y. a ddyoddefa gospedigaeth ei Whod. Felly hefyd yn Num. xiv. 33, 34:—«« A'ch plant a grwydrant yn yr an- ialwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant eich puteindra,"—h. y. cânt ddwyn cosp- edigaeth eich puteindra. Ond dywedir gan awdwyr y cyfìeithiad newydd, mai ystyr yr ymadrodd, " Efe a ddyg ein pechodau ni yn ei gorff ei hun ar y pren," ydyw, iddo eu symud a'u dwyn ymaith, megys y dywedir, medd- ant, yn Mat. vii. 17, iddo ddwyn ein clef- ydau, pan yr iachaoddhwynt trwy ei allu gwyrthiol. Yr wyf yn ateb, yn laf, A gadael eu bod heb gamesbonio geiriau yr Efengylwr Matthew, nid yw yn bosibl mai yn yr ys- tyr hyn y golygai yr apostol Pedr i'n Har- glwydd ddwyn ein pechodau ni. Yn y golygiad o ddyoddef cospedigaeth ein pechodau, gellid yn briodol iawn ddywed- yd iddo " ddwyn ein pechodau yn ei gorff ei hun ar y pren." Ond pa feddwl a ellir ei ffurfio o'r esboniad a roddir i'r eeiriau gan y Sosiniaid ? Pa fodd, yn ol eu cyf- undraeth hwy, y gallai efe " symud a dwyn ymaith ein pechodau yn ei gorff ei hun ar y pren ?" Ni oddefa eu gosod- iad hwy i ni feddwl fod marwolaeth Crist wedi ei bwriadu i symud euogrwydd nac i bwrcasu maddeuant i ni:—y mae yn cau allan y dybiaeth o ddwyn ymaith bechod- au ond a gynwysir yn y symudiad o halog- rwydd. Os felly, onid yw yn eithaf am- lwg, na ddarfu i Grist yn y modd hyn symud na chymeryd ymaith bechod neb yn ei gorff ei hun ar y pren ? Y mae yn gwneyd hyny trwy ddwyfol allu ei air a'i Ysbryd. Os gwrthodir athrawiaeth yr iawn, yna y mae iaith yr apostol yn ddi- ystyr hollol. Yn 2il, yr Avyf yn ateb, Fod lle i ni gredu eu bod yn camddeall ymadroddion Matthew yn y lle a nodwyd. Ond i ni ystyried geiriau y proffwyd, ymddengys yn eithaf eglur fod yr ymadroddion, "Efe a gymerth ein gwendid ni—a ddyg ein doluriau—a archollwyd am ein camwedd- au—a ddrylliwyd am ein hanwireddau"— i gyd yn cynwys yr un drychfeddwl. " Gŵr gofidus a chynefiu â dolur," medd y proffwyd. Ac yr oeddym ni yn ystyr-