Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PERL. Rhifyn 34. HYDREF, 1902. Cyf. III. SWYDDOGION BYDDIN IESU. X.—CAPLAN. jETH olygir wrth y gair Curad yn y Llyfr Gweddi? y gwahaniaeth rhwng Ficer Beth yw a Curad ì Am bwy awrî yr arferir y gair Curad yn Enw swydd nad yw Plant y Perl yn ei glywed yn aml yw Caplan. Sonir am Gaplan yn y Fyddin, Caplan mewn llong ryfel, Caplan y carchar. Bryd arall dywedir fod rhyw un wedi ei wneyd yn Gaplan i'r Esgob, neu yn Gaplan i'r Brenin. Beth ydyw Caplan ? Yn gyntaf, o ba le y daw yr enw 1 O'r enw Capel. Gair wedi ei fenthyca oddiar yr Ëglwys yw y gair capel a arferir am addoldai. A golygai adeilad wedi ei neillduo at addoliad Duw nad ydoedd nac Eglwys Gadeiriol nac Eglwys blwyfol. Yn yr hen amser yr oedd yn mhob plw}Tf mawr agos un neu ychwaneg o Eglwysydd bychain yn y cyrau pellaf lle ÿ cedwid gwasanaethau wythnosol. Ar y prif wyliau elai pawb i Eglwys y plwyf. Capelau y gelwid y rhai hyn. A dengys yr enw roddodd yr hen Ymneillduwyr ar eu haddol- 10—iii.